Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe: canolbwynt Locws Rhyngwladol 2009

Yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe rydym yn falch o fod yn ganolbwynt swyddogol ar gyfer gwybodaeth a man arddangos celfyddydau gweledol pwysig fel rhan o Locws Rhyngwladol: celf ar draws y ddinas 2009.

Yn yr arddangosfa mae wyth artist o Gymru, Prydain ac Ewrop yn creu gweithiau celf newydd, dros dro sy'n ymateb uniongyrchol i bobl, diwylliant, treftadaeth a thirwedd Abertawe.

Mae gosodiadau sy'n cael eu harddangos yn yr Amgueddfa ac o'i chwmpas yn cynnwys gwaith gan Tanya Axford, Marko Maetamm a Calum Stirling. Mae gwaith Tanya yn deillio o'i darganfyddiad o hanes morol cyfoethog Abertawe ac yn enwedig o berthynas y ddinas ag effaith rymus y môr. Mae Tanya yn defnyddio gosodwaith fideo, sydd i'w weld ar hyn o bryd yn Uned 1a, ger yr Amgueddfa, sy'n chwarae gyda'r berthynas hon gan roi argraff o'r môr wrth i storm godi.

Wedi'i leoli ar lawnt yr Amgueddfa mae project Marko Maetamm Tir beddau yn cyfuno cymeriad lliwgar, anhrefnus Abertawe gyda'i hail-greu fel dinas hamdden. Daw ysbrydoliaeth Maetamm o'i syniad o'r ddinas yn mynd drwy aildrefnu ac yn dod ag atyniadau a gweithgareddau newydd i bobl Abertawe.

Bydd gardd cwrt yr Amgueddfa yn gartref dros yr wythnosau nesaf i osodwaith Calum Stirling. Gan weithio'n agos gyda chasgliad serameg Amgueddfa Cymru mae Stirling wedi ymchwilio i Grochendy Cambrian Abertawe sy'n enwog yn ei faes. Mae wedi creu gosodiad mawr sy'n seiliedig ar ddarnau o'r casgliad a gynhyrchwyd yn Abertawe.

'Rydym wrth ein boddau i gael dangos rhai o osodiadau mwyaf creadigol Locws yn yr Amgueddfa a'i chyffiniau,' meddai Pennaeth yr Amgueddfa, Steph Mastoris. 'Am ein bod yn ganolbwynt gwybodaeth i'r project, bydd ein hymwelwyr yn gweld celf gyfoes yn agos atynt a hefyd cael cipolwg ar y teithi meddwl sy wedi esgor ar broject fel hwn.'

Mae artistiaid eraill y project yn cynnwys Aisling O'Beirn, Megan Broadmeadow, Neville Gabie, Paul Granjon a Neeme Külm ac mae pob un ohonynt wedi ymateb i Abertawe mewn ffyrdd gwahanol iawn gan ddewis amryw elfennau hanesyddol a chyfoes o'r ddinas. Arddangosir y gweithiau celf mewn llefydd cyhoeddus ar draws canol y ddinas. Maen nhw am ddim ac yn agored i bawb.

Dywedodd Grace Davies, Rheolwr Project am y fenter: 'Mae pob un o'r artistiaid wedi'i ysbrydoli gan orffennol, presennol a dyfodol Abertawe i greu gweithiau celf newydd a ffres sy'n ymateb i agweddau ar y ddinas gan eu herio a'u hadlewyrchu. Felly mae Locws Rhyngwladol yn cynnig golwg gyfredol ar arfer celf gyfoes a hefyd adlewyrchiad unigryw o ysbryd y ddinas hon ar hyn o bryd.'

Yn ogystal â'r gweithiau celf mae rhaglen o deithiau tywys, sgyrsiau a digwyddiadau sy'n agored i bawb ac am ddim. Mae'r daith dywys nesaf ddydd Sadwrn 25 Ebrill 2009 am 2pm o Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Mae mynediad i safleoedd Amgueddfa Cymru am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweithredu saith amgueddfa genedlaethol dros Gymru, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Bydd rhagor o deithiau tywys o Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn digwydd ar y dyddiadau canlynol: Mercher 29 Ebrill, 1pm Sadwrn 2 Mai, 2pm Mercher 6 Mai, 1pm Sadwrn 9 Mai, 2pm