Datganiadau i'r Wasg

Stori Symudol

Dewch i animeiddio cymeriadau gyda'r artist Sean Harris

Mae Mona - animeiddiad newydd, sy'n dod â gwrthrychau, straeon a phrofiadau o'r gorffennol yn fyw - yn cael ei arddangos ar hyn o bryd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. I ddathlu, mae'r dyn tu ôl i'r ffilm, Sean Harris, yn gwahodd ymwelwyr i'r Amgueddfa'r penwythnos hwn (23 - 25 Mai 2009) i helpu i animeiddio cymeriadau hanesyddol fel y rhai a bortreadir yn Mona.

Byddwch yn artist rhwng 11 y bore - 4 y prynhawn o ddydd Sadwrn hyd at ddydd Llun, a helpwch Sean Harris i greu animeiddiad go iawn yn cynnwys gwrthrychau o Gwreiddiau: canfod y Gymru gynnar yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a rhyfelwyr. Yna gallwch fynd i ffeindio'r gwrthrychau'n yr arddangosfa ei hun!

Mae Sean Harris wedi cydweithio ag Amgueddfa Cymru i greu pum ffilm erbyn hyn. Hela'r Twrch Trwyth oedd y cyntaf a greodd ar y cyd â'r adran archeoleg a Mona yw'r gwaith diweddaraf.

Mae Mona yn animeiddiad cyfareddol, sy'n cynnwys gwrthrychau o Lyn Cerrig Bach, sy'n rhan o gasgliad yr Amgueddfa ac adroddiadau byw am y cysylltiad cyntaf rhwng y Derwyddon a'r Rhufeiniaid ar Ynys Môn.

Dywedodd Heidi Evans o Amgueddfa Cymru:

"Dyma gyfle gwych i weld gwrthrychau, sydd fel arfer yn llonydd yn ein horielau, yn dod yn fyw. Rydyn ni wedi gweithio gyda Sean Harris ers sawl blwyddyn ac mae pob un o'i brojectau'n mynnu sylw ac ymrwymiad pobl ifanc."

Mae'r gweithgaredd dros y Sulgwyn yn addas ar gyfer y teulu cyfan ac am ddim (cadwch eich lle wrth gyrraedd). Caiff y digwyddiad ei arddangos yn ystod yr ?yl Archeoleg ym mis Gorffennaf. Ceir rhagor o wybodaeth ar www.amgueddfacymru.ac.uk.

Gallwch weld Mona yng ngofod arddangos dros dro Gwreiddiau hyd at 16 Awst 2009.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn un o saith amgueddfa genedlaethol Amgueddfa Cymru. Y chwech arall yw Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Mae mynediad am ddim i bob Amgueddfa diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Diwedd

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar (029) 2057 3185/07920 027067 neu e-bost catrin.mears@museumwales.ac.uk.