Datganiadau i'r Wasg

Ysbrydwlithen yn cyrraedd y 10 Rhywogaeth Newydd Orau yn y Byd

Mae'r Ysbrydwlithen ‘carismatig', a ddarganfuwyd gyntaf mewn gardd yng Nghaerdydd yn 2007, wedi ei henwi gan Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Archwilio Rhywogaethau fel un o'r rhywogaethau gorau a ddisgrifiwyd yn y Byd y llynedd.

Mae'r Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Archwilio Rhywogaethau yn cyhoeddi rhestr flynyddol o'r 10 Rhywogaeth Newydd Orau yn y Byd ar gyfer y flwyddyn galendr flaenorol. Yn ‘ddarganfyddiad annisgwyl mewn lleoliad sydd wedi ei gasglu'n helaeth ac sy'n boblog iawn' dewiswyd yr Ysbrydwlithen neu'r Selenochlamys ysbryda, fel y'i henwyd gan arbenigwyr yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yngh?d â naw rhywogaeth arall a ddisgrifiwyd yn 2008.

Syfrdanwyd biolegwyr yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd pan ddangosodd aelod o'r cyhoedd sbesimenau iddynt. Daw perthnasau'r wlithen o Georgia a Thwrci.

Yn wahanol i'r mwyafrif o wlithod, mae'r Ysbrydwlithen yn gigysol ac mae'n lladd mwydod yn y nos â'i dannedd pwerus llafnaidd, gan eu sugno i'w chorff fel sbageti. Nid oes llygaid ganddi, mae'n gwbl wyn ac mae'n byw o dan y ddaear gan wasgu ei chorff hyblyg i mewn i holltau i gyrraedd at y mwydod.

Pan sylwodd y gwyddonwyr mai rhywogaeth nas disgrifiwyd o'r blaen oedd hi, heb enw gwyddonol, penderfynwyd galw'r creadur yn Selenochlamys ysbryda. Esboniodd Ben Rowson, un o fiolegwyr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a astudiodd y wlithen yn wreiddiol:

"Roedd 'Selenochlamys ysbryda' i'w weld yn addas ar gyfer yr heliwr nosol iasol hwn, ac mae'n cyfeirio at lle cafodd ei darganfod gyntaf. Rydym yn credu mai dyma'r tro cyntaf i air Cymraeg gael ei ddefnyddio mewn enw gwyddonol anifail."

Hefyd ar restr Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Archwilio Rhywogaethau y mae morfarch maint pysen, coffi heb gaffein a bacteria sy'n byw mewn chwistrell gwallt. Ceir rhagor o wybodaeth ar www.species.asu.edu/Top10.

I fonitro lledaeniad y Wlithen, mae'r Amgueddfa wedi cynhyrchu llawlyfr adnabod syml sydd ar gael ar www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/rhagor/erthygl/?article_id=193. Yn aml, y llefydd gorau i adnabod anifeiliaid neu blanhigion anarferol yw Amgueddfeydd sydd â chasgliadau hanes natur a staff arbenigol, fel Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ac mae'r mwyafrif ohonynt yn croesawu ymholiadau oddi wrth y cyhoedd.