Datganiadau i'r Wasg

Trysorau teithiol

Carchar y Parc yn helpu Amgueddfa Cymru i ddathlu 60 mlynedd o rannu casgliadau'r Amgueddfa

O deganau o Oes Fictoria a bwyd Rhufeinig i weithiau celf gan Betty Blandino ac Eirian Short, mae pobl ifanc ledled Cymru wedi gallu mwynhau casgliadau Amgueddfa Cymru yn eu hamgylchfyd eu hunain am y 60 mlynedd diwethaf.

Mae 2009 yn cofnodi 60 mlwyddiant Casgliad Allestyn Amgueddfa Cymru - y gwasanaeth benthyg amgueddfaol cyntaf o'i fath yn y byd. Mae arddangosfa newydd gan droseddwyr ifanc yng Ngharchar Ei Mawrhydi a Chanolfan Troseddwyr Ifanc y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr, a agorwyd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yr wythnos hon (2 Mehefin 2009), yn dangos sut y gall pobl sy'n methu ymweld â'r Amgueddfa gael budd o gasgliadau'r genedl.

Mae'r Casgliad Allestyn, a adwaenir gynt fel y Gwasanaeth Benthyg i Ysgolion, yn gyfrwng a sefydlwyd i fenthyg gwrthrychau i ystod eang o grwpiau - yn arbennig pobl ifanc - gyda'r nod o ysbrydoli creadigrwydd, cof a dysgu. Yn ôl yr Athro D. Dilwyn John, Cyfarwyddwr Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru o 1948 tan 1968, ei nod oedd "diddori, ysbrydoli a dysgu trwy bethau".

Defnyddiwyd y casgliad gan dros 99,000 o bobl rhwng Ebrill 2008 a Mawrth 2009 ac mae'n parhau i esblygu. Heddiw, benthycir gwrthrychau i grwpiau cymunedol, cwmnïau teledu a ffilm, grwpiau diddordeb arbennig a sefydliadau fel Carchar Ei Mawrhydi a Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc, a weinyddir gan G4S.

Mae gan y carchar adran celfyddydau creadigol hynod ragweithiol sy'n rhedeg rhaglenni addysgiadol ac ailsefydliadol, ac fe groesawyd ymglymiad y Casgliad Allestyn a arweiniodd at greu gweithiau celf drawiadol gan amryw o oedolion sy'n garcharorion, troseddwyr ifanc a phobl ifanc.

Gan ddefnyddio casgliad celf a hanes natur yr Amgueddfa fel ysbrydoliaeth, gall y cyfranogwyr ddefnyddio'u gweithiau celf 3D a 2D tuag at eu harholiadau, gan gynnwys RhCA, TGAU a Lefel AS.

"Mae'r gwrthrychau a fenthycwyd gan yr Amgueddfa wedi helpu'r rheiny a gymerodd rhan i fod yn fwy creadigol a'u hysbrydoli i edrych ar amrywiaeth mwy eang o wrthrychau i'w hysgogi," dywedodd Laurence Bater, Rheolwr Cwricwlwm Celf Creadigol y Carchar.

"Gall llwyddiant bach gan garcharor gael effaith sylweddol. Gall rhywbeth yr ydym ni'n ei gymryd yn ganiataol yn aml wneud gwahaniaeth mawr. Mae cymryd rhan mewn celf greadigol yn ffordd wych i'r carcharorion ddatblygu eu hunan hyder."

Bydd arddangosfa o'r gwaith ym mhrif neuadd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn y man arddangos parhaol - Trysorau teithiol - am y tri mis nesaf.

Bryony Spurway yw Rheolwr y Casgliad Allestyn. Meddai:

"Trwy fynd â'n casgliadau y tu allan i ffiniau'r Amgueddfa gall pawb fwynhau rhannau o'r casgliadau gwych yr ydym yn eu cadw ar ran y genedl. Mae rhai o'r eitemau mwyaf poblogaidd yn cynnwys rhai sy'n sbarduno ymateb emosiynol er enghraifft bodisiau Fictoraidd â marciau chwys! Hefyd, roedd modd i fachgen dall ag anghenion arbennig ac anawsterau dysgu drin a thrafod sbesimen o gadno a sylweddoli am y tro cyntaf fod anifeiliaid o siâp gwahanol i fodau dynol."

Ni fyddai gwaith y Casgliad Allestyn yn bosib heb gymorth hael Cyfeillion Amgueddfa Cymru.

Mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn un o saith amgueddfa genedlaethol Amgueddfa Cymru. Y chwech arall yw Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Diwedd

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar (029) 2057 3185/07920 027067 neu e-bost catrin.mears@museumwales.ac.uk. neu

Sara Webber, Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu, Carchar Ei Mawrhydi a Chanolfan Troseddwyr Ifanc y Parc, G4S Care & Justice Services Limited ar (01656) 300208 neu ebost sara.webber@uk.g4s.com.