Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n dathlu cael statws Buddsoddwyr mewn pobl

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe wedi llwyddo cyrraedd safon Buddsoddwyr mewn pobl sydd mor adnabyddus.

Clodforwyd yr Amgueddfa gan y panel cydnabod am ei ffordd ymroddgar a rhagweithredol o fynd ati i hyfforddi, datblygu a rheoli pobl.

Mae Buddsoddwyr mewn pobl yn darparu fframwaith syml a hyblyg i gynorthwyo sefydliadau o bob maint ac o bob sector i wella eu perfformiad busnes. Cynhaliwyd cyfweliadau gyda thros ugain aelod o staff yn yr Amgueddfa dros ddeuddydd. Amlygodd yr adroddiad terfynol sawl maes o ymarfer da gan gynnwys:

Diwylliant effeithiol iawn sy'n grymuso a galluogi pobl i gyfrannu syniadau a chyflwyno penderfyniadau mewn ffordd agored;

Diwylliant cadarnhaol lle mae pobl yn wir ymwneud â chynllunio a darparu gweithgareddau eu timau a'r Amgueddfa;

Cyfathrebu heb ei ail sy'n sicrhau bod pobl yn cael gwybod yn iawn am weithgareddau'r Amgueddfa a chael eu tynnu i mewn iddynt yn llwyr;

Ymroddiad clir i hyfforddi a datblygu pobl yn unol ag amcanion busnes mewn awyrgylch sy'n cefnogi cyfle cyfartal;

Diwylliant lle gwelir rheolwyr yn gefnogol a hawdd mynd atynt;

Ethos cryf a chadarnhaol o gydnabod a gwerthfawrogi cyfraniad pobl.

Meddai Pennaeth yr Amgueddfa, Steph Mastoris am y newydd da: 'Mae'r cyflawniad hwn yn bwysig iawn i ni yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Mae'r Amgueddfa ond yn dair oed a hanner ac rydym wrth ein boddau i gyrraedd y safon yn syth bin. Mae'n gydnabyddiaeth o'n gwaith o ran cynllunio a rheoli effeithiol yn ogystal â hyfforddi a datblygu'n staff. Byddwn yn adeiladu ar hyn i gadw'r achrediad drwy'r blynyddoedd i ddod.'

Dywedodd Mark Richards, Cyfarwyddwr Gweithredu Amgueddfa Cymru: 'Rydym wrth ein boddau fod Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wedi llwyddo cael statws Buddsoddwyr mewn pobl. Mae'n dangos y gwaith caled a fu ac yn amlygu'r ffordd ardderchog mae'r aelod diweddaraf i deulu Amgueddfa Cymru wedi datblygu ei staff i'w potensial llawn.'

Meddai'r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, am gyflawniad yr Amgueddfa: "Mae Buddsoddwyr mewn pobl yn chwarae rhan bwysig yn ymroddiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu busnesau. Mae'n canolbwyntio ar wella perfformiad sefydliad drwy ei staff. Rwyf yn hynod falch felly bod Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wedi llwyddo i gyrraedd y statws hwn. Mae'n dangos ymroddiad yr Amgueddfa i'w staff sy'n rhwym o esgor ar well perfformiad busnes yn y tymor hir."

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n ymuno ag Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru a Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru fel amgueddfeydd sydd wedi ennill statws Buddsoddwyr mewn pobl.

Diwedd

Gwella canlyniadau busnes drwy gynyddu sgiliau a galluoedd eich staff yw nod Buddsoddwyr mewn pobl. Buddion hysbys y cynllun yw mwy o sbardun, llai o staff yn ymadael a mwy o elw am bob aelod o staff. Am fwy o wybodaeth ewch i www.investorsinpeople.co.uk

Am fwy o wybodaeth ffoniwch Marie Szymonski Swyddog Cyfathrebu Marchnata ar (01792) 638 970.

Mae mynediad am ddim i Amgueddfa Cymru diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweithredu saith amgueddfa genedlaethol dros Gymru, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.