Datganiadau i'r Wasg

Hwyl y môr-ladron yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Os ydych am gael hwyl gyda'r môr-ladron dros y penwythnos, ewch i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe lle bydd gweithgareddau lu yn digwydd fel rhan o ?yl Fôr Abertawe.

Bydd y digwyddiad deuddydd yn dechrau ddydd Sadwrn 20 Mehefin am 11am gyda rhaglen gyffrous o hwyl yr haf i'r teulu cyfan.

Bydd rhai o uchafbwyntiau eleni yn cynnwys arddangosiad c?n achub y Tir Newydd lle gwelwch y c?n mawr, hoffus hyn yn arfer eu medrau achub bywydau.

Bydd dyn yr ysgadan cochion yn dangos sut i fygu'r pysgod a bydd Horatio, meddyg môr hanesyddol yn adrodd storïau o ddyddiau'r Arglwydd Nelson.

Hefyd bydd sesiwn caneuon y môr, teithwyr amser sy'n dod â hanes yn fyw, gweithgareddau ymwybyddiaeth amgylcheddol y môr, gweithdai syrcas a maelgi mawr, llawn gwynt.

Dywedodd Pennaeth yr Amgueddfa, Steph Mastoris, am y digwyddiad: 'Eto eleni rydym yn falch i gydweithio gyda Dinas a Sir Abertawe ar ?yl Fôr Abertawe. Bydd yn benwythnos llawn hwyl gyda digon i ddifyrru'r teulu i gyd. Yn yr Amgueddfa bydd cystadleuaeth am y môr-leidr sydd wedi'i wisgo orau a bydd gwobr hefyd. Felly cofiwch wisgo'n bwrpasol ar gyfer y gystadleuaeth!'

Bydd yr hwyl yn digwydd ddydd Sadwrn 20 a dydd Sul 21 Mehefin 11am-5pm.

Dinas a Sir Abertawe sy'n trefnu G?yl Fôr Abertawe. Am fwy o wybodaeth ewch i www.swanseabayfestival.com

Diwedd

Mae mynediad i Amgueddfa Cymru am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweithredu saith amgueddfa genedlaethol dros Gymru, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Cysylltiad i'r wasg: Marie Szymonski, Swyddog Cyfathrebu Marchnata, Amgueddfa Cymru (01792) 638 970.