Datganiadau i'r Wasg

Mona yn Glastonbury

Caiff Mona, ffilm ddiweddaraf yr artist Sean Harris ei harddangos ynghyd â 16 o ffilmiau eraill gan wneuthurwyr ffilm ifanc a newydd ar draws Gymru, yng ng?yl gerddoriaeth Glastonbury dydd Sadwrn yma (27 Mehefin 2009).

Dyma gyfle i 350,000 o bobl i weld yr animeiddiad diddorol sy'n dod a gwrthrychau, straeon a phrofiadau o'r gorffennol yn fyw. Caiff ei harddangos ar y "Village Screen" a ddatblygwyd gan Rhaglennwyr Creadigol Llundain 2012 er mwyn darparu llwyfan newydd ar gyfer dangos gweithiau gwneuthurwyr ffilm newydd.

Mae Mona yn animeiddiad newydd, sy'n cynnwys adroddiadau byw am y cysylltiad cyntaf rhwng y Derwyddon a'r Rhufeiniaid ar Ynys Môn a gynhyrchwyd gan Sean Harris ynghyd â phobl ifanc yng Nghymru ac Amgueddfa Cymru.

Os nad ydych chi'n mynd i Glastonbury, caiff Mona ei harddangos yn oriel Gwreiddiau: canfod y Gymru gynnar Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan 16 Awst. Cynigir mynediad am ddim diolch i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn un o saith amgueddfa genedlaethol Amgueddfa Cymru. Y chwech arall yw Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Mae mynediad am ddim i bob Amgueddfa diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Diwedd

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar (029) 2057 3185/07920 027067 neu e-bost catrin.mears@museumwales.ac.uk.

Nodyn i'r Golygydd:

Ymhlith yr 17 ffilm o Gymru mae ffilmiau wedi'u hanimeiddio a rhai dogfen wedi'u creu gan bobl ifanc rhwng 8-18 mlwydd oed, ffilmiau gan fyfyrwyr, ffilmiau byr proffesiynol a ffilmiau hir wedi'u creu ar gyllideb fechan. Darlledir y ffilmiau ar sgrin ddwbl 25m2 ger y "pwynt cyfarfod" [man hynod boblogaeth ar y safle] ar ddydd Sadwrn, gan sicrhau y bydd pob un o'r 350,000 o fynychwyr yn gallu gweld y ffilmiau.

Enwau'r ffilmiau yw: Summer Scars gan Julian Richards, On The Push gan Undercurrents, Butterfly gan It's MyShout, Dream Girl gan FILM 15, Triple Word gan Paul Allen, The life and Life of Horace gan Tornado Films, The Stute gan Cinetig, Dream Guy gan Ysgol Ffilm Mynwy, Elvis Preselie gan Galeri, The Boat Man gan Giles Thaxton, The Farmers Daughter gan Tornado Films, Chucks gan Katy Ruffy/FILM 15, Mona gan Sean Harris, Wild West Wales gan Seimon Lea/FILM 15, Nutty Biscuits gan Danny Dixon, Dewi Selmen, Andrew Alderton a Nick Davies/FILM 15, Free Running gan Ysgol Uwchradd Catholig Sain Alban, Two Men and Their Ponies gan Flycatcher Films a Mary and the Miners gan Flycatcher Films/Ysgol Gynradd Cantref.