Datganiadau i'r Wasg

Charles Darwin — o naturiaethwr i wyddonydd naturiol

Darlith gyda'r hwyr yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gan y dyn a sefydlodd Ganolfan Darwin yng Nghymru

 

‘Y pum mlynedd iddo dreulio ar yr HMS Beagle newidiodd mewn ffordd ryfeddol ei fywyd ef a'n bywydau ni hefyd,' meddai'r Athro Anthony K Campbell

Ddydd Mercher 1 Gorffennaf 2009 bydd yr Athro Anthony K Campbell, Cyfarwyddwr Gwyddonol Canolfan Darwin, Sir Benfro yn rhannu ei syniadau yngl?n â sut y daeth Charles Darwin yn un o'r gwyddonwyr biolegol enwocaf erioed.

Bydd y ddarlith gan yr Athro mewn Biocemeg Feddygol, Prifysgol Caerdydd a gynhelir yn Narlithfa Reardon Smith Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am 6.30pm yn canolbwyntio ar berthnasedd heddiw syniadau Darwin am ddetholiad naturiol a sut y trawsnewidiodd fioleg a meddygaeth.

"Trawsnewidiwyd Darwin ar y daith ar y Beagle a'i droi o naturiaethwr rhagorol i wyddonydd naturiol gwych," meddai'r Athro Campbell. "Byddaf yn archwilio sut yr oedd ei bwerau arsylwi â'i bum synnwyr wedi'i arwain at ei syniad chwyldroadol. Byddaf hefyd yn dangos pam fod angen sgiliau naturiaethwr arnom ni i gyd, beth bynnag yw'n proffesiwn."

Cynigir mynediad am ddim i'r ddarlith gan yr Athro sy'n wyddonydd naturiol byd-enwog, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae'r ddarlith yn un o gyfres o sgyrsiau gan yr Athro eleni i ddathlu 200 mlynedd ers geni Charles Darwin.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn un o saith amgueddfa genedlaethol Amgueddfa Cymru. Y chwech arall yw Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Diwedd

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar (029) 2057 3185/07920 027067 neu e-bost catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.