Datganiadau i'r Wasg

Project yr Wystrys ar ddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Bydd Dawns Tan Abertawe yn cynnal arddangosfa wedi'i ysbrydoli gan wystrys yn Arddangosfa Genedlaethol y Glannau hyd at ddydd Sadwrn 19 Gorffennaf.

Mae'r arddangosfa Project yr Wystrys yn adrodd stori dathliad a dirywiad y diwydiant wystrys ym Mae Abertawe.

Trwy ddefnyddio cymysgedd o ddawns, celfyddyd weledol, treftadaeth liwgar, hanes lleol ac ymchwil ecolegol, mae Dawns Tan yn ceisio dod â hanes unigryw ac emosiynol y diwydiant yn fyw.

Gwahoddwyd ysgolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau erailli gymryd rhan mewn cyfres o weithdai a ddechreuodd yn gynharach y mis hwn. I gloi'r project, cynhelir perfformiad yn Theatr y Grand, Abertawe ddydd Llun 3 Awst.

"Rydym yn hapus iawn i gael croesawu'r arddangosfa yma i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau," meddai'r Swyddog Addysg Cymunedol, Sue James. "Mae'r arddangosfa'n adrodd hanes y diwydiant wystrys trwy gyfrwng celf a'r celfyddydau perfformiadol, sydd yn arbennig o bwysig gan fod y diwydiant yn adfywio rhyw ychydig ar hyn o bryd."

Bydd Project yr Wystrys ar ddangos yn yr Amgueddfa hyd ddydd Sadwrn 19 Gorffennaf 2009.

Nodiadau i'r golygydd

Dawns Tan yw'r sefydliad Dawns Cymunedol ar gyfer Dinas a Sir Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Mae Dawns Tan yn Gwmni Disglair Cyngor Celfyddydau Cymru, ac mae'n gweithio gydag amrywiaeth eang o bobl mewn sefyllfaoedd amrywiol, gan ddefnyddio dawns fel offeryn ar gyfer addysgu, integreiddio a newid cymdeithas.

Am fwy o wybodaeth am Dawns Tan cysylltwch â Carol Brown, Cyfarwyddwr Artistig ar (01639) 813428.