Datganiadau i'r Wasg

Y Dr J. Geraint Jenkins, 1929-2009

Bu farw'r Dr John Geraint Jenkins, un o'r Cymry amlycaf ym myd yr amgueddfeydd a Chymrawd Cymdeithas yr Amgueddfeydd, ar 15 Awst 2009.

Fe'i ganwyd i deulu morwrol Cymraeg ger Llangrannog a derbynniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Aberteifi a phrifysgolion Abertawe ac Aberystwyth, lle cafodd radd MA.

Ymgymerodd â'i swydd amgueddfaol gyntaf yng Nghaerl?r ym 1952 gan symud yn fuan wedyn i Amgueddfa Bywyd Gwerin Lloegr yn Reading, lle gwnaeth ymchwil ar gyfer ei gyhoeddiad mawr cyntaf, The English Farm Wagon (1961).

Dychwelodd i Gymru i ymuno â Iorwerth Peate fel ceidwad cynorthwyol yn Sain Ffagan. Yn ystod ei gyfnod yno cyflawnodd astudiaeth gynhwysfawr o ddiwydiant gwlân Cymru a arweiniodd at gyhoeddi ei gyfrol swmpus, The Welsh Woollen Industry (1969), a chaffael adeiladau Melinau'r Cambrian, Dre-fach Felindre, ym 1976 - Amgueddfa Wlân Cymru bellach.

Roedd ganddo rôl bwysig wrth sefydlu y Gymdeithas Astudiaethau Bywyd Gerin a datblygodd cysylltiadau ag amgueddfeydd awyr agored eraill yn Ewrop, yn enwedig yn Hwngari.

Ym 1978 penodwyd Geraint yn guradur Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru oedd newydd ei hagor yn nociau Caerdydd. Byddai'n disgrifio'r blynyddoedd yno fel rhai hapusaf ei yrfa. Ar yr adeg honno nid oedd Bae Caerdydd ar ei newydd wedd wedi ymddangos, ac roedd Geraint yr un mor hapus yng nghwmni perchnogion llong cyfoethog â chymeriadau megis Harry, rheolwr y North Star - y clwb nos amheus oedd y drws nesaf i'r Amgueddfa!

Roedd yn aelod o gyngor Cynhadledd Ryngwladol yr Amgueddfeydd Morwrol ac ysgrifennodd nifer o lyfrau ar hanes morwrol Cymru. Dyfarnwyd D.Sc. (Economeg) iddo gan Brifysgol Cymru ym 1981.

Ym 1987 dychwelodd Geraint i Sain Ffagan fel curadur am bum mlynedd cyn ymddeol. Yn nodweddiadol ohono, ni fu pall ar ei weithgarwch yn ystod ei ymddeoliad yn y gorllewin. Roedd yn Uchel-Siryf Dyfed yn y cyfnod 1994-5 a bu'n ymhel â gwleidyddiaeth leol, gan weithredu fel cadeirydd Cyngor Sir Geredigion yn ystod 2002-03.

Cymeriad bythgofiadwy oedd Geraint a adawodd argraff gref ar bawb a gyfarfu ag ef. Roedd ei hwyliau da yn codi ysbryd y cwmni bob tro. Gallai adrodd straeon penigamp o'i fywyd hir ac amrywiol, rhai'n barchus a rhai'n llai parchus! Collodd Cymru ladmerydd heb ei ail a chollodd y byd amgueddfaol un o'i meibion enwocaf. Mae'n gadael ei wraig Nansi a dau fab, David a Gareth; bu farw Richard, ei fab arall, yn 2000.

Dr David Jenkins, Uwch Guradur, Adran Diwydiant, Amgueddfa Cymru