Datganiadau i'r Wasg

Canolfan Gymunedol Affricanaidd yn cydnabod Sue gyda gwobr

Mae Swyddog Addysg Allestyn yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wedi'i chlodfori am ei hymroddiad wrth weithio gydag aelodau o gymuned leol Abertawe.

Dyfarnwyd Tystysgrif Gwerthfawrogiad i Sue James o Dreforys yn ddiweddar am ei chefnogaeth i'r gymuned Affricanaidd ac Affro-Caribïaidd.

Derbyniodd Sue y wobr gydag Ezzo Alhaj ac Emily Robertson am eu hymroddiad mawr i Fforwm Ieuenctid Affricanaidd a chafodd Mel Jehu a fu'n arolygydd gyda Heddlu De Cymru wobr am ei haelioni tuag at y gymuned Affricanaidd ac Affro-Caribïaidd.

Roedd yn syndod mawr i Sue a oedd ar y pryd yn cymryd rhan mewn digwyddiad cyhoeddus yn y ganolfan am ddileu caethwasiaeth i bobl Affricanaidd ym Mhrydain sef digwyddiad coffaol a drefnwyd fel teyrnged i'r rhai a esgorodd ar y newid hwn. Dywedodd Sue am y digwyddiad: "Roeddwn wrth fy modd. Bues i'n gweithio gyda'r Ganolfan am nifer o flynyddoedd ac roeddwn yn hapus iawn gyda'r wobr."

Am y degawd diwethaf bu Sue yn gweithio dros wahanol grwpiau cymunedol yn y ddinas. Cyn dod i weithio i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau roedd swydd debyg ganddi yn Ninas a Sir Abertawe. Yno bu'n gweithio gyda'r Ganolfan i greu rhaglen o berfformiadau, gweithdai ac arddangosfeydd a roddodd sylw i bobl, tirwedd a diwylliant Affrica a'r pethau cyffredin mae'n eu rhannu â Chymru.

Erbyn hyn rhan fawr o swyddogaeth Sue yw uno grwpiau ag unigolion cymunedol i ddatblygu mentrau a digwyddiadau i annog undod cymdeithasol ac ymwybyddiaeth o sut mae gwahanol ddiwylliannau wedi cyfrannu at fywyd Cymru.  Mae enghreifftiau o'i gwaith yn cynnwys lansiad llwyddiannus iawn Wythnos Ffoaduriaid Cymru a'r project arobryn Traed mewn Cyffion sef rhaglen dwy flynedd o ddigwyddiadau cerddorol a gweithdai ac arddangosfeydd treftadaeth, celf ac amgylchedd a ganolbwyntiai ar gaethwasiaeth a materion cyfredol o ymelwa.

"Mae gwaith cymunedol wedi bod yn ddiddordeb ac yn bleser i mi erioed,' meddai Sue. 'Mae'n swydd sy'n dod â boddhad i mi a'r cyfle i gwrdd â llawer o bobl wahanol. Ni allwn gyflawni'r swydd hon ar fy mhen fy hun am fod y bobl eraill yn f'ysbrydoli i roi cynnig ar bethau newydd."

Dywedodd Uzo Iwobi (Urdd Ymerodraeth Prydain) sefydlydd a chadeirydd y Ganolfan am y gwobrau : "Roedd yn bleser cyflwyno'r Dystysgrif hon i Sue am ei gwasanaeth gwych i'n cymuned. Mae Sue bob tro'n cynnig gwasanaeth proffesiynol a chynhwysol i bob cymuned. Penderfynodd Ymddiriedolwyr y Ganolfan a'r staff yn unfrydol i gyflwyno'r dystysgrif i Sue fel arwydd o'n gwerthfawrogiad am ei hymroddiad diflino wrth hybu cysylltiadau hiliol da, dealltwriaeth well o faterion treftadaeth ac undod cymdeithasol. Mae Sue James yn weithiwr penigamp a chaffaeliad i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau."

Menter nesaf Sue ar y cyd â'r Ganolfan yw sefydlu project cymunedol i greu baneri yn gynnar ym mis Hydref. Am fwy o wybodaeth ffoniwch Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar (01792) 638950.

Am fwy o wybodaeth neu am gyfle ffoto ffoniwch Marie Szymonski Swyddog Cyfathrebu Marchnata ar (01792) 638970.

Mae mynediad am ddim i holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru'n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.