Datganiadau i'r Wasg

Albwm newydd, trac newydd, lleoliad newydd

Victorian English Gentlemens Club yn chwarae yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

 Yn y ddwy flynedd ddiwethaf mae'r Victorian English Gentlemens Club wedi perfformio mewn tair fforest, dwy eglwys ac un syrcas. Erbyn hyn mae'r pedwar aelod o'r band roc indie o Gymru a ryddhaodd eu hail albwm Love On An Oil Rig ar 14 Medi 2009 wedi datgan eu bwriad i chwarae yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Fel rhan o raglen S?n o ddigwyddiadau o gwmpas Caerdydd (www.swnfest.co.uk) ymddangosant yn yr Amgueddfa am 3.30pm ddydd Iau 22 Hydref 2009 yn arddangosfa gelf Golwg Sain a agorodd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 25 Medi 2009. Mae mynediad i'r perfformiad am ddim a chadwch eich lle wrth y brif ddesg ar ôl cyrraedd os gwelwch yn dda.

Ymwelodd y Victorian English Gentlemens Club ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn gyntaf i gwrdd â'r Curadur Celf Bryony Dawkes a gyflwynodd i'r band rai o'r darnau celf gorau'r wlad. Ymadawodd y band wedi'i ysbrydoli gan bortread y ffotograffydd arloesol Roger Fenton o Abaty Melrose i ysgrifennu ymateb cerddorol i'r gwaith fel rhan o broject Ymateb Amgueddfa Cymru.

Fel rhan o raglen Cerdd 09 mae Ymateb wedi dod ag artistiaid a churaduron o'n saith amgueddfa at ei gilydd i lunio ymateb cerddorol i gasgliadau'r genedl.

Mae Adam Taylor o'r Victorian English Gentlemens Club yn esbonio eu trac:

"Roedd amseroedd dinoethi ffotograffau'r 19eg ganrif yn hwy nac yn awr ac roedd yn rhaid llwyfannu pethau'n fwy statig. Pwnc y gân yw'r eiliadau hynny o ddistawrwydd. Yn bwysicaf oll nid yw'n gefndir cerddorol i'r ffotograff. Mae'n gân a ysgrifennwyd ar ôl edrych ar ffotograff."

Trac newydd y Victorian English Gentlemens Club yw Mr Fenton and his picture of Melrose Abbey (2009) sydd yn yr arddangosfa Golwg Sain ac sydd hefyd i'w lawrlwytho am ddim o wefan Amgueddfa Cymru o 22 Hydref ymlaen - www.amgueddfacymru.ac.uk.

Mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, diolch i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Amgueddfa Cymru'n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

Diwedd

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar (029) 20573185 neu 07920 027067 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.

• Victorian English Gentlemens Club

Ffurfiwyd y Victorian English Gentlemens Club pan gyfarfu Adam Taylor a Louise Mason â'i gilydd mewn coleg celf yng Nghaerdydd. Gan gyfuno eu diddordeb mewn celf a cherddoriaeth gitâr arbrofol dechreuodd y ddau ysgrifennu cerddoriaeth a ysbrydolid yn gyfangwbl gan y Velvet Underground a Sonic Youth. Blwyddyn yn ddiweddarach roedd yr albwm cyntaf wedi'i gwblhau a llofnodwyd y band ar label Fantastic Plastic Records, Llundain.

Gyda'r drymiwr Emma Daman aeth y band ar daith am ddwy flynedd gan serennu mewn teithiau eang o gwmpas Ewrop a Phrydain gan chwarae yn SXSW 08 ac yn cefnogi teithiau gyda Future of The Left, Noisettes, Deerhoof a British Sea Power.

Wedyn aethant ar encil i ysgrifennu cant o ganeuon (cafodd 88 ohonynt eu difa mewn ffordd ddi-boen) ac erbyn hyn mae'r gweddill ar blât i chi ymhyfrydu ynddynt.

Mae Love On An Oil Rig yn cymryd camffurfiad triphlyg (triple distortion) a'r cytgordiau mwyaf anhysbys ac yn eu tywallt drwy ffenest amryliw pop. Roedd y dylanwadau ar y record gyntaf yn amlwg ond mae'r ail yn sefyll yn gadarn ar ei thraed ei hun. Mae'r syniadau moel a chyntefig wedi'u diffinio'n glir gan gadw ymwybyddiaeth yr ysgol gelf o'r abs?rd, y beiddgar a'r estron.

Ers y recordiad recriwtiwyd drymiwr newydd a phedwerydd aelod o'r clwb i gynyddu ffyrnigrwydd eu s?n gan ei gymryd i'r lefel nesaf gyda gitarau swnllyd, bloeddiadau a sgrechfeydd.

Recriwtiwyd doniau ffyn Syr Dan Lazenby a s?n gitâr nodweddiadol Steph Jones.

Maent yn byw yng Nghaerdydd o hyd. Fel gr?p maent yn mwynhau pedalau effeithiau, Sonic Youth, clychau, gwylanod wedi'u stwffio, cotiau glaw melyn, camffurfiad, bonsái, tâp du'r giaffar, dominos asgwrn ac ifori a Wire.