Datganiadau i'r Wasg

Y gymuned Hind?aidd yn dathlu 'Gŵyl y Goleuadau' gydag ymwelwyr i'r Amgueddfa

Diwali Mela yn cael ei chynnal yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Ydych chi wedi dawnsio mewn arddull Bollywood? Neu ydych chi erioed wedi cael tatw Henna?

Caiff y rheiny sy'n ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng 11 y bore a 4 y prynhawn ar ddydd Sadwrn, 24 Hydref 2009 eu croesawu gan ddawnswyr Indiaidd, pobl yn adrodd straeon, cerddoriaeth Bollywood ac arddangosfeydd Rangoli wrth i Gymdeithas Ddiwylliannol Hind?aidd Cymru a Chanolfan India Caerdydd ddathlu Diwali Mela neu ?yl y Goleuadau.

Yn agored i bawb ac yn rhad ac am ddim, daw'r gymuned Hind?aidd yng Nghaerdydd at ei gilydd i arddangos traddodiadau a gwerthoedd Indiaidd. Bydd y diwrnod yn cynnwys caneuon gwerin a thatw Henna i arddangosfeydd saree ac amrywiaeth o stondinau celf, crefft a sbeis.

Daeth dros 2,000 i Diwali Mela yn 2008, ac eleni disgwylir i'r digwyddiad ddenu hyd yn oed mwy fel y mae Heidi Evans o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn egluro:

"Dyma'r pedwerydd tro i Diwali Mela cael ei chynnal yn yr Amgueddfa ac mae'r nifer o ymwelwyr wedi cynyddu bob blwyddyn. Dyma un o'r diwrnodau yng nghalendr digwyddiadau'r Amgueddfa pan fo'r brif neuadd yn llawn dathlu, lliw a mwynhad. Yn bendant, mae'n sioe ni ddylid ei cholli!"

Mae mynediad i'r digwyddiad ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Dylai plant o dan 14 mlwydd oed ddod o dan wyliadwriaeth eu rhieni neu ofalydd.

"Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wedi elwa'n fawr o'n partneriaeth gyda Chymdeithas Ddiwylliannol Hind?aidd Cymru a Chanolfan India Caerdydd," parhaodd Heidi. "Mae gweithio ar y cyd gyda nhw'n ein galluogi i gynnig gweithgareddau amrywiol sy'n gwneud ein rhaglen gyhoeddus yn fwy perthnasol i boblogaeth amrywiol Cymru."

Mae Amgueddfa Cymru'n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diwedd

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar 029 2057 3185 neu 07920 027067.