Datganiadau i'r Wasg

Hynt, hwyl a helyntion Calan Gaeaf yn Amguedda Lechi Cymru

Hanner tymor Calan Gaeaf yn Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis 

26 - 31 Hydref 2009

Os ydych chi'n chwilio am weithgareddau Calan Gaeaf  i gadw'r plant yn brysur yn ystod yr wythnos hanner tymor, yna Amgueddfa Lechi Cymru  Llanberis yw'r lle i chi.

Trefnwyd nifer o weithgareddau Calan Gaeaf  o  Hydref 26 - 31 i ddiddanu a ddiddori. Bydd  Helfa Ystlumod o gwmpas y safle drwy'r wythnos; o Hydref 29 - 31 bydd cyfle i wneud crefftau iasoer  i fynd adref yn y gweithdai crefft, ar Hydref 30 bydd cyfle i wneud bocsus ystlumod gyda'r Ymddiriedolaeth Natur ac ar Hydref 31 bydd  cyfle i gwrdd â rhai o dylluanod  Ymddiriedolaeth Adar Gogledd Cymru.

 "Mae edrychiad syfrdanol adeilad yr amgueddfa yn wych yn ystod amser yma'r flwyddyn ac ar gyfer gweithgareddau fel hyn ' meddai Julie Williams, Swyddog Marchnata'r safle. "Mae'r daith ystlumod yn ffordd gwych i gael plant a theuluoedd i weithio gyda'u gilydd ac yn edrych mewn i ystafelloedd nad ydynt efallai yn mynd iddyn nhw ar ymweliad arferol - ac yn cael hwyl wrth ei wneud.'

Hefyd ar 29 Hydref, rhwng 1pm a 3pm, bydd sgwrs ‘tu ol i'r llenni' gyda Curadur yr amgueddfa, Cadi Iolen, yn y llofft patrwm yn son am y gwaith amgueddfaol sydd ynghlwm ag edrych ar ol y casgliad patrymau pren.

Cynhelir y crefftau a'r sioe tylluanod rhwng 12pm - 4pm.  Mae mynediad i Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.  Bydd cost o £1 am fynychu'r gweithdai crefft.  I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Amgueddfa ar 01286 870630 neu danfonwch e-bost at llechi@amgueddfacymru.ac.uk

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

 Y Wasg Cysylltwch â Julie Williams ar 01286 873707 neu Julie.williams@amgueddfacymru.ac.uk