Datganiadau i'r Wasg

Ysbrydion newydd yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.

Datganiad i'r Wasg

15 Hydref 2009

Ysbrydion newydd yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.

Os ydych chi wedi cael llond bol ar y taflwyr wyau a'r chwarae triciau, dewch i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymry y Calan Gaeaf hwn i ddarganfod mwy am wreiddiau Celtaidd yr Wyl. 

Mae sawl un yn honni iddynt weld ysbrydion yn cerdded yn yr Amgueddfa Werin. Ers i'r Amgueddfa agor yn 1948, mae staff, ymwelwyr a thrigolion lleol wedi profi digwyddiadau anesboniadwy yn sawl un o adeiladau Sain Ffagan, yn y castell Elisabethaidd a'r gerddi coediog. Ar 29, 30, 31 Hydref 2009, am yr ail flwyddyn yn olynol, bydd Sain Ffagan yn cynnal ei Nosweithiau Calan Gaeaf.

Un ysbryd falle wnaiff ymddangosiad eleni ydy Gwrach y Rhibyn. Honnir i'r ddrychiolaeth yma gymryd ffurf hen wraig atgas gyda dannedd mawr duon, breichiau main a'i gwallt yn cyrraedd y llawr. Ei nodwedd arbennig yw ei hylltra anghyffredin. Mae hi'n arwydd fod rhywun am farw, neu fod pla ar y ffordd. Ond does neb wedi gweld y wrach yng Nghaerdydd er 1878; mae llygaid-dyst o'r cyfnod yn cofio'r braw gafodd o weld yr ellyll:

(gellir darllen mwy yn y Nodiadau i Olygyddion)

"...yn Llandaf yr oeddwn... yn ymweld â hen gyfaill, pan welais i Wrach y Rhibyn...fe'i gwelais yn glir, syr, hen wreigan afiach gyda gwallt hir, coch ac wyneb fel sialc, a dannedd enfawr, ac roedd hi'n edrych nôl arna'i dros ei hysgwydd wrth iddi deithio drwy'r awyr a'i g?n du yn llusgo ar hyd y llawr o dan ei breichiau, doeddwn i ddim yn gallu gweld fod ganddi gorff o gwbwl. A chyn wired ac fy mod i yma o'ch blaen, syr, mi welais i hi'n mynd mewn i dafarn y ‘Cow and Snuffers', ond ddaeth hi ddim allan. Fe wyliais i'r drws am sbel hir, ond ddaeth hi ddim allan oddi yno. A drannoeth, heb air o gelwydd, fe ddywedodd rhywun wrtha i fod perchennog y dafarn yn farw - wedi marw yn y nos."

Calan Gaea' yw diwedd yr hen flwyddyn Geltaidd a dyma'r amser pan mae'r ffin rhwng y byd hwn a'r byd arall yn pylu; mae'n amser o newid mawr i bob creadur a dyma phryd mae ysbrydion Cymru yn dod allan i chwarae. Mae Calan Gaeaf yn amser hefyd ar gyfer hwyl a dathlu: chwarae gemau, bwyta ac yfed.

Gwisgwch eich dillad mwyaf dychrynllyd er mwyn crwydro'r Amgueddfa liw nos a phrofi noson o olau a thywyllwch yn llawn hud a lledrith. Bydd ysbrydion yn ymddangos gan ddefnyddio triciau hen a newydd i greu effeithiau cyffrous a dramatig. Efallai y gwnewch chi gwrdd â'r Ladi Wen neu ddod wyneb-yn-wyneb a bwgan wedi'i garcharu mewn drych hud. Gwrandewch am udo annaearol C?n Annwn - c?n hela'r arallfyd. Os ewch i'r tanerdy, edrychwch o gwmpas am Ysbryd y Crwynwr, bwci bo sydd ddim ond wedi ymddangos yn Sain Ffagan yn lled ddiweddar.

Bydd gweithgareddau ar gyfer y teulu fel adrodd straeon arswydus, twca fala' a gweithgareddau celf, ac effeithiau clywe-weledol yn cyfuno i wneud y rhain yn nosweithiau bythgofiadwy. Ffoniwch 029 2087 8440 i brynu tocyn nawr.

DIWEDD

Am wybodaeth i'r wasg a lluniau, cysylltwch ag Iwan Llwyd, Swyddog Cyfathrebu. Ffôn: 029 2057 3486 Ebost:

iwan.llwyd@amgueddfacymru.ac.uk

Cliciwch: www.amgueddfacymru.ac.uk

(Am gyfweliadau cyn 21 Hydref, cysylltwch â: Matthew Davies, Cydlynydd Digwyddiadau. Ffoniwch: 029 2057 3500)

Rhai o'r ysbrydion fydd yn ymddangos yn Nosweithiau Calan Gaeaf Sain Ffagan.

Gwrach y Rhibyn: Hen wrach hyll, mae hi'n arwydd fod rhywun am farw; yn ôl rhai, fe all hi argoeli Pla. Heb gael ei gweld yng Nghaerdydd er 1878.

Y Tylwyth Teg: Os clywch chi nodau'r delyn hudol, efallai y cewch eich temtio i ymuno â'r Tylwyth Teg mewn dawns - peidiwch dda chi. Mae'r rhai sy'n dawnsio yn sylwi fod amser yn pasio'n sydyn iawn, gall oriau deimlo fel eiliadau. Gwnewch yn si?r fod gennych chi gyfaill all dod i'ch nôl o'r ddawns o fewn blwyddyn a diwrnod neu byddwch chi'n colli golwg o amser yn gyfan gwbwl.

C?n Annwn: Mae udo'r c ?n yn argoeli fod person drwg iawn am farw. Os yw'r s?n yn uchel, yna mae'r helgwn yn agos, ond os yw'r s?n yn ysgafn, mae'r pac yn agos iawn...

Hwch Ddu Gwta: Ar ddiwedd noson Calan Gaeaf, mae pawb yn mynd am adref wrth i'r goelcerth losgi. Peidiwch ag aros allan yn rhy hwyr, rhag ofn i'r Hwch Ddu Gwta eich dal.

Lliw Gwaed Waliau Ffermdy Kennixton: Mae waliau'r hen ffermdy yma wedi'i beintio'n goch - yn wreiddiol gyda chymysgedd o galch a gwaed ychain; mae 'na Griafolen gerllaw yn pwyso o aeron cochion - mae'r lliw coch yn gwarchod rhag ysbrydion drwg. Daw diwedd erchyll i unrhyw wrach sy'n dod yn rhy agos i'r t?.

Y Ladi Wen: Bwgan brawychus fydd efallai yn gofyn am eich cymorth i ddod o hyd i drysor neu aur. Ond bydd unrhyw arwydd o ofn yn gwneud iddi ddiflannu.

Y Bwbach: Hen greadur digon blin sy'n chwarae triciau ar unrhyw un sy'n ei siomi. Yn anffodus, mae'n rhaid bod yr Amgueddfa wedi gwneud rhywbeth i'w ypsetio. Gwyliwch, fe all godi ei ben yn unrhyw le.

Y Dyn Gwiail: Honnodd Strabo, awdur Rhufeinig, fod y Celtiaid yn arfer llosgi gwartheg, anifeiliaid gwyllt a dynion, oddi mewn i gawr enfawr wedi'i adeiladu o wellt a gwiail. Yn fwy diweddar, mae llosgi delw ar goelcerth yn cael ei gysylltu gyda Chalan Gaeaf a Noson Guto Ffowc.

Y Toili: Dyma angladd lledrithiol sy'n rhagweld marwolaeth efallai wythnos neu fwy cyn y cynhebrwng go iawn.

Y Drych Hud. Mae 'na hen goel os ewch chi'n agos at ddrych ar noson Calan Gaeaf gyda channwyll yn eich llaw, cewch weld wyneb eich darpar briod.

Y G?r Drwg: Oes 'na hen ?r bonheddig erioed wedi gofyn ichi chwarae cardiau neu rannu'r ddiod gadarn ag ef? Byddwch yn ofalus - os oes arogl sylffwr yn yr aer neu falle lympiau tebyg i gyrn ar ei ben - efallai mai'r Diafol ei hun sy'n ceisio ei arwain ar gyfeiliorn.

Ysbryd y Tanerdy: Heidiodd y dorf y llynedd i gael cip ar yr ysbryd yma. Roedd gweithwyr y Tanerdy yn glanhau'r cig a saim oddi ar grwyn anifeiliaid, cyn taflu'r gwastraff i g?n anferth. Roedd trin y lledr yn job beryg, defnyddient bob math o ddeunyddiau annymunol i lanhau'r crwyn.

Tystiolaeth llygaid-dyst wedi iddo weld Gwrach y Rhibyn, yn Llandaf, Caerdydd, 1878:

"...It was at Llandaff...on a visit to an old friend, that I saw and heard Gwrach y Rhibyn. I was sleeping in my bed, and was woke at midnight by a frightful screeching and a shaking of my window. It was a loud and clear screech, and the shaking of the window was very plain, but it seemed to go by like the wind...I Saw the Gwrach y Rhibyn, saw her plainly, sir, a horrible old woman with long red hair and a face like chalk, and great teeth like tusks, looking back over her shoulder at me as she went through the air with a long black gown trailing along the ground below her arms, for body I could make out none. She gave another unearthly screech while I looked at her; then I heard her flapping her wings against the window of a house just below the one I was in, and she vanished from my sight. But I kept on staring into the darkness, and as I am a living man, sir, I saw her go in at the door of the Cow and Snuffers inn, and return no more. I watched the door of the inn a long time, but she did not come out. The next day, it's the honest truth I'm telling you, they told me the man who kept the Cow and Snuffers Inn was dead - had died in the night. His name was Llewellyn, sir - you can ask any one about him, at Llandaff - he had kept the inn there for seventy years, just at that very spot. It's not these new families that the Gwrach y Rhibyn ever troubles, sir, it's the old stock."