Datganiadau i'r Wasg

Ymddeoliad o gelf a siocled i Tudur wedi 36 mlynedd o waith!

Ymddeoliad o gelf a siocled i Tudur ar ol 36 mlynedd o waith!

Llunio cerdyn Nadolig hynod boblogaidd, teithio ar draws y wlad yn trefnu arddangosfeydd, gofalu am Dai'r Chwarelwyr! Dyma rai o'r pethau a gyflawnwyd gan Tudur Jones o Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis yn ystod gyrfa sy'n rhychwantu 36 o flynyddoedd.

Bydd Tudur, sy'n aelod gwerthfawr o staff Amgueddfa Cymru, yn ymddeol o'i swydd fel Swyddog Dogfennaeth yr wythnos hon. Cychwynnodd ei yrfa ym mis Hydref 1973 fel arlunydd-dechnegydd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, gan symud i Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan ym 1980.  Ym 1989, symudodd ef a'i deulu i ogledd Cymru a dechreuodd weithio yn Llanberis yn Amgueddfa Ynni Cymru cyn dod yn Swyddog Dogfennaeth yn Amgueddfa Lechi Cymru ym 1996 ar ôl iddi gael ei hail-ddatblygu:

"Mae fy rôl gydag Amgueddfa Cymru wedi newid cryn dipyn dros y blynyddoedd - ac mae'r gwaith wedi parhau'n ddiddorol o'r herwydd," meddai Tudur. "Dogfennaeth yw'r brif agwedd ar fy swydd ar hyn o bryd, sef adnabod gwrthrychau a'u catalogio er mwyn eu diogelu at y dyfodol.  Rydw i wedi bod yn ffodus iawn o gael y cyfle i weithio yn nifer o safleoedd Amgueddfa Cymru, ac wedi mwynhau gweithio mewn amryw o lefydd bendigedig yn ogystal â chael y cyfle i ddysgu oddi wrth aelodau eraill o'r staff a chwrdd â gwahanol bobl. Rydw i wedi mwynhau pob eiliad ac mae'r amser wedi hedfan."

Arlunydd yw Tudur yn y bôn, a bu'n dilyn Cwrs Sylfaen yng Ngholeg Celf Casnewydd cyn mynd i astudio Celfyddyd Gain yng Ngholeg Goldsmith yn Llundain.  Un o'r pethau y mae'n edrych ymlaen ato fwyaf yn ystod ei ymddeoliad yw treulio mwy o amser yn paentio - yn ogystal â chael amser i ofalu am ei gasgliad hoff o bapurau lapio melysion:

"Rydw i wedi bod yn ffodus iawn o gael y cyfle i ddefnyddio fy nawn artistig drwy gydol fy amser yn yr amgueddfa.  Rydw i wedi gweithio ar dros 25 o gyhoeddiadau ac wedi cynhyrchu nifer o luniau gan gynnwys y llun o Ffermdy Kennixton yn Amgueddfa Werin Cymru - hwn oedd un o gardiau Nadolig mwyaf llwyddiannus yr amgueddfa. Rydw i hefyd wedi cydweithio â nifer o arlunwyr lleol i gynnal arddangosfeydd gan gynnwys Keith Bowen, Rob Piercy a Keith Andrew yn ogystal â'r diweddar Kyffin Williams a Selwyn Jones, fy nghyn diwtor yng Nghasnewydd. Yn fwy diweddar, rydw i wedi treulio llawer iawn o amser yn gweithio ar luniau M. E. Thompson - arlunwraig a fu'n portreadu chwareli gogledd Cymru yn y 1950au ac y mae ei darluniau bellach yng nghasgliad yr Amgueddfa.

 

"Mae gweithio mewn lle hyfryd fel Llanberis wedi fy ysbrydoli dros y blynyddoedd ac rydw i'n edrych ymlaen at dreulio mwy o amser yn paentio, ond rydw i hefyd yn gobeithio ehangu fy nghasgliad o bapurau fferins. Mae'n ddiddorol gweld sut y mae papurau lapio melysion  megis Cadbury's Dairy Milk, Aero a Kit Kat wedi newid dros y blynyddoedd. Rydw i wedi bod yn casglu ers y 1980au."

Meddai Dafydd Roberts, Ceidwad Amgueddfa Lechi Cymru: "Bydd ymddeoliad Tudur yn golled fawr i'r Amgueddfa. Mae wedi bod yn aelod staff penigamp dros y blynyddoedd a byddwn yn colli ei wybodaeth a'i ymrwymiad i'r Amgueddfa. Rydym yn dymuno ymddeoliad hir a hapus iddo."

 

Gwybodaeth ar gyfer y Wasg: Am ragor o wybodaeth i'r wasg a ffotograffau, a fyddech cystal â chysylltu â Julie Williams ar 01286 873707 ebost: julie.williams@amgueddfacymru.ac.uk. Gellir cael ffotograffau gan Amgueddfa Lechi Cymru.

 

Nodiadau i Olygyddion: Mae Amgueddfa Cymru - National Museum Wales yn gyfrifol am saith amgueddfa drwy Gymru, sef: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon;  Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae mynediad i holl safleoedd Amgueddfa Cymru yn ddi-dâl, diolch i nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru.