Datganiadau i'r Wasg

Craffu ar Rembrandt: Campwaith Rembrandt i'w weld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Portread o Catrina Hooghsaet ar fenthyg i Amgueddfa Cymru

O ddydd Mercher 4 Tachwedd 2009, bydd cyfle arbennig i weld Portread o Catrina Hooghsaet gan Rembrandt van Rijn (1606-1669), sydd ar fenthyg gan Gastell Penrhyn, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ochr yn ochr ag ysgythriadau gwreiddiol a phortreadau o'r Iseldiroedd o gasgliad Amgueddfa Cymru.

Bydd cyfle i ymwelwyr â'r amgueddfa fwynhau'r Portread o Catrina Hooghsaet (1607-1685) am ddim tan 21 Mawrth 2010, pan fydd yn dychwelyd i Gastell Penrhyn ger Bangor - cartref y llun ers y 1860au.

Mae'r portread o'r ddynes gyfoethog o Amsterdam a beintiwyd ym 1657 yn enghraifft o ddawn arbennig Rembrandt i beintio cymeriadau, nid wynebau'n unig. Mae'n dangos ei allu i gyfuno manylder, argraffiadau aneglur ac effeithiau trawiadol golau a chysgod.

Yn ystod y 1650au, Rembrandt oedd yr arlunydd enwocaf yn Amsterdam. Heddiw, mae'n cael ei gydnabod fel un o'r bobl bwysicaf yn hanes celf, ac mae ei waith yn parhau i ysbrydoli arlunwyr ym mhedwar ban byd.

Mae gallu arddangos llun sy'n cael ei ystyried yn un o'r lluniau pwysicaf gan un o'r hen feistri mewn dwylo preifat yn y DU yn gyfle heb ei ail i Amgueddfa Cymru. Meddai Oliver Fairclough, Ceidwad Celf, sy'n falch o arddangos y llun hwn yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd:

"Ychydig iawn o luniau Rembrandt sydd mewn dwylo preifat yn y DU, ac mae Portread o Catrina Hooghsaet yn un o'r rhain. Rydyn ni'n ddiolchgar i Stad y Penrhyn am adael i ni rannu'r campwaith hwn, sydd fel arfer yn un o brif atyniadau arddangosiadau'r Castell, gyda'n hymwelwyr ac rydyn ni'n hyderus y bydd yn boblogaidd tu hwnt."

Roedd Rembrandt hefyd yn argraffydd gwych. Roedd yn arbrofi gydag ysgythriadau i greu tonau ac effeithiau mynegiannol nas gwelwyd o'r blaen, ac mae'r rhain yn rhan o'r arddangosiad Craffu ar Rembrandt. Bydd cyfle hefyd i werthfawrogi portreadau o'r Iseldiroedd o dair dynes arall gan gynnwys ein llun o'r etifeddes o Gymru, Catrin o Ferain, sydd wedi'i briodoli i Van Cronenburgh.

Ychwanegodd: "Bydd Craffu ar Rembrandt yn dangos yr amrywiaeth o waith a gynhyrchodd yr arlunydd. Diolch i'r gwaith ailddatblygu diweddar yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gallwn fod yn fwy hyblyg a chreu arddangosfa gan ddefnyddio eitemau o'n casgliadau i gyd-fynd â benthyciad Portread o Catrina Hooghsaet."

Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan AC, Prif Weinidog Cymru:

"Mae cael y cyfle i arddangos Portread o Catrina Hooghsaet yn llwyddiant mawr i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae Rembrandt yn ffigwr aruchel mewn hanes celf. Nesaf at gael benthyg Mona Lisa, ni allaf feddwl am atyniad gwell y mae'n rhaid ei gweld yn yr Amgueddfa Genedlaethol. Rwy'n gwybod y bydd miloedd o bobl eisiau ymweld â'r Amgueddfa i fwynhau'r portread yn ein amgueddfa genedlaethol yn ein prifddinas. Peidiwch â'i cholli!"

Bydd modd gweld yr arddangosfa Craffu ar Rembrandt am ddim yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd (3 Tachwedd-21 Mawrth 2009) diolch i nawdd Llywodraeth y Cynulliad.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ledled y wlad, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diwedd

Am fwy o wybodaeth, lluniau neu i drefnu cyfweliad, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar (029) 2057 3185 / 07920 027067 neu catrin.mears@museumwales.ac.uk.

Yn gysylltiedig:

Nodiadau i Olygyddion:

Dyma rai o'r eitemau eraill o gasgliad Amgueddfa Cymru fydd yn cael eu cynnwys yn yr arddangosfa:

Paentiadau

- Portread o Foneddiges, Frans Hals (priodolir)

- Catrin o Ferain, Adriaen van Cronenburgh (priodolir)

- Portread o Ddyn, Syr Anthony van Dyck

- Portread o Ddyn, Maerten van Heemskerck

- Portread o Ddynes, Maerten van Heemskerck

Ysgythriadau

- Astudiaethau o ben Saskia

- Mam Rembrandt yn eistedd wrth fwrdd yn edrych i'r dde

- Clement de Jonghe, gwerthwr argraffiadau (5ed fersiwn)

- Pen Saskia yn unig

- Bwthyn gyda ffens bolion wen

- Yr Angel yn gadael y teulu Tobias

- Rembrandt mewn cap melfed â phluen, a dillad wedi'u brodio (a newidiodd yn ddiweddarach i fod yn hunanbortread yn tynnu llun ger ffenestr)