Datganiadau i'r Wasg

Big Pit yn croesawu Baton y Frenhines ar gyfer Delhi 2010

Ddydd Mercher 11 Tachwedd, bydd Ras Gyfnewid Baton y Frenhines ar gyfer Gemau'r Gymanwlad yn Delhi 2011 yn cyrraedd Big Pit fel rhan o gymal Cymru.

Bydd plant ysgol o Gilwern a Chasnewydd yn ymuno â'r athletwyr Matt Elias, Lee Beach a Simon Lawson - sy'n gobeithio cynrychioli'u gwlad yng Ngemau Delhi 2010 - ynghyd â chyn-bencampwr gemau'r Gymanwlad, Jamie Baulch, mewn ras gyfnewid arbennig lle bydd y baton yn cael ei gludo ar hyd twneli danddaear y pwll glo dwfn olaf yng Nghymru.  Ei Deilyngdod, Maer Tor-faen, y Cynghorydd Bob Jones, fydd yn dechrau'r ras.

Dyma’r amseroedd a’r manylion:

9.00am Croesawu’r cyfryngau – gwirio offer unrhyw griwiau danddaear
9.30am Y Maer yn trosglwyddo’r baton i’r gr?p cyntaf sy’n mynd danddaear
9.30am – 10.30am Cynnal ras gyfnewid y baton o danddaear (gyda dau gymal danddaear i drosglwyddo’r baton)
10.40am Yr holl gr?p yn rhedeg gyda’r baton i’r Baddondai Pen Pwll
10.50am Pawb yn ymgynnull yn y Baddondai Pen Pwll
11.00am Dwy funud o dawelwch ar gyfer Dydd y Cofio
11.10am Cyfle i holi’r athletwyr a thynnu lluniau o’r plant, yr athletwyr a’r Baton
12.00pm Y baton yn gadael am Gaerdydd.

Meddai Peter Walker, Rheolwr y Lofa  "Mae'n fraint cael bod yn rhan o'r digwyddiad byd-eang hwn, ac rydym yn falch o gynnal un o gymalau'r ras gyfnewid yn Big Pit. Mae gan ein cymoedd glofaol draddodiad gwych ym myd chwaraeon, ac felly mae'n  addas bod Ras Gyfnewid Baton y Frenhines yn cael ei chynnal danddaear, mewn amgueddfa sy'n adrodd hanes y cymunedau hyn."

Ychwanegodd ei Deilyngdod, Maer Tor-faen, y Cynghorydd Bob Jones "Fel un a gafodd ei eni a'i fagu yn y cwm, ac sydd hefyd wedi teithio'r byd, mae'n gryn anrhydedd cael bod yn gysylltiedig â'r digwyddiad pwysig hwn sy'n adlewyrchu buddiannau a gwerthoedd cyffredin y gymuned. Wrth i sylw'r byd droi tuag at Gymru, bydd ymweliad Baton y Frenhines Delhi 2010 yn rhoi Big Pit a Blaenafon ar ganol y llwyfan. Gyda llygaid y byd ar Gymru, diolch i'r rhyngrwyd a'r gwasanaethau newyddion rhyngwladol, mae'n gyfle i ni ddangos nodweddion diwylliannol a daearyddol unigryw ein gwlad i'r byd a'r betws."

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol:  Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, yn Abertawe, Amgueddfa Lechi Cymru, yn Llanberis, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, yng Nghaerllion, Amgueddfa Wlân Cymru, yn Dre-fach Felindre, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, ym Mlaenafon, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, yng Nghaerdydd

Mae mynediad am ddim i Amgueddfa Cymru, diolch i gymorth Llywodraeth y Cynulliad.