Datganiadau i'r Wasg

Dathlu Cwblhau Beudy Cae Adda

Mw-mw, me-me, cwac-cwac
Dathlu Cwblhau Beudy Cae Adda
9 Mehefin 12pm

Nid adeilad crand na chymhleth i ddathlu cyfoeth ein hanes diwylliannol neu ddiwydiannol mo'r ychwanegiad diweddaraf at gasgliad yr Amgueddfa Werin o adeiladau hanesyddol, ond yn hytrach, beudy bach gwyn o'r enw Cae Adda o Waunfawr ger Caernarfon. Ar gyfnod lle mae gan y cyhoedd ddiddordeb mawr mewn adfer a chynnal ein hetifeddiaeth pensaernïol, mae Sain Ffagan yn mynd nôl at ei gwreiddiau wrth symud yr adeilad bach hardd hwn o'i gartref gwledig yn 2002 a'i ailgodi wrth ymyl bwthyn Llainfadyn, a adeiladwyd yn wreiddiol yn Rhostryfan ym 1762.

Yn ei leoliad gwreiddiol yn Rhostryfan, byddai gan fwthyn fel Llainfadyn feudy ac un neu ddau o adeiladau bach eraill fel twlc moch ac ystafell golchi, yn yr un ffordd â llawer o fythynnod tebyg yn Eryri. Pan cynigiwyd Llainfadyn i'r Amgueddfa Werin ym 1956, nid oedd yr adeiladau eraill yn rhan o'r cynnig ac felly nid oedd y dehongliad o fywyd cartref teulu chwarel yn y Gogledd yn gyflawn.

Adeiladwyd y beudy yn ôl yr un traddodiad â Llainfadyn, gyda muriau o feini mynydd mawr a tho llechi mân, mae'n debyg bod y beudy'n dyddio i ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau'r 19eg ganrif. Mae'r to yn arbennig o ddiddorol am fod y llechi wedi eu hoelio yn eu lle ar dyweirch dros ben estyll garw'r to.

Cafodd yr adeilad, a gyflwynwyd gan Geraint Rees Roberts o Waunfawr, ei ddatgymalu gan Uned Adeiladau Hanesyddol arbenigol yr Amgueddfa. Gyda meini mawr o'r mynydd yn pwyso hyd at 4 tunnell yr un, cafodd y beudy ei symud gyda'r gofal a'r sylw arferol i fanion sydd wedi gwneud yr Amgueddfa'n fyd—enwog. Cafodd pob carreg ei rhifo a'i mesur yn ofalus, a chofnodwyd y wybodaeth ar ddarluniau manwl a ffotograffau er mwyn sicrhau bod y beudy'n cael ei ailadeiladu'r gywir.

Drwy gydol y project mae'r Amgueddfa wedi bod yn cydweithio'n agos â'r gymuned leol gan gynnwys Antur Waunfawr sydd wedi olrhain datblygiad yr adeilad o'i gofnodi i'w ailgodi. Mae Ysgol ***** a'r artistiaid Luned Rhys Parri a Catrin Williams wedi gwneud modelau o drigolion dychmygol Cae Adda a'u perchnogion. Gellir gweld ffrwyth llafur y projectau cyffrous hyn yn y dathliadau ar y 9fed o Fehefin yng Nghae Adda a'r cyffiniau.

Mae John Williams Davies, Cyfarwyddwr Amgueddfa Werin Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd ailgodi adeilad mor fach a dibwys yr olwg "Er ein bod ni wedi tueddu i symud i ffwrdd oddi wrth ailgodi adeiladau gwledig yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth symud teras trefol o Rhyd—y—car o dref ddiwydiannol Merthyr Tudful a Sefydliad Gweithwyr Oakdale, mae'n hanfodol ein bod ni'n dehongli Llainfadyn, un o'n harddangosion mwyaf poblogaidd, yn ei gyfanrwydd. Mae Cae Adda yn enghraifft brin iawn o draddodiad adeiladu a oedd yn gyffredin yn Eryri ers lawer dydd. Mae'r ffaith fod Uned Adeiladau Hanesyddol arbenigol yr Amgueddfa wedi llwyddo i'w ailgodi, drwy ddysgu hen sgiliau coll a'u defnyddio, yn dystiolaeth o'u harbenigedd a'u ymroddiad i'w gwaith"

Yn wreiddiol, byddai Cae Adda wedi cartrefu Gwartheg Duon Byrgoes , ond bydd yn gartref i Wartheg Duon Cymreig newydd anedig yr amgueddfa ar ei safle newydd. Roedd cadw ychydig o ddefaid, moch a gwartheg oll yn rhan hanfodol o fywyd caled teuluoedd y chwarel yn y Gogledd, ac yn rhan hanfodol o economi'r ardal. Nawr bod y beudy syml hwn wedi ei gwblhau, mae'n cymryd ei le ochr yn ochr â'r adeiladau eiconaidd yn Sain Ffagan ac mae'n wir destament i'r hen ddywediad bod bach yn brydferth.

I gael rhagor o fanylion neu luniau o Gae Adda, cysylltwch ag Esyllt Lord, Swyddog y Wasg a CC, Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ar 029 2057 3486/07810 657176.