Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n croesawu ymwelydd rhif 1,000,000

Heddiw (Sadwrn 7 Tachwedd) croesawodd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ymwelydd rhif 1,000,000 dros ei throthwy a hynny cwta bedair blynedd ers iddi agor ei drysau.

Ar gyfartaledd mae'r Amgueddfa'n derbyn tua chwarter miliwn o ymwelwyr y flwyddyn - o Abertawe, Cymru, Prydain a thu hwnt - sy'n golygu ei bod hi'n sicr yn gadael ei marc ar fap diwylliannol Cymru.

Gall ymwelwyr archwilio i hanes difyr diwydiant a blaengaredd Cymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf. Mae gennym dros 100 o arddangosion clywedol, 36 arddangosfa ryngweithiol a gwrthrychau mawr hynafol o bob cwr o Gymru sy'n cynnwys locomotif stêm cynta'r byd, gwasg frics ac un o'r ychydig wagenni glo sydd wedi goroesi.

Teulu lleol o Abertawe oedd yr ymwelwyr arbennig a gododd cyfanswm yr ymweliadau i un filiwn dros y penwythnos. Croesawyd y teulu o St Thomas gan fal?ns anferth i gofnodi'r achlysur. Wrth son am yr Amgueddfa, meddai Chris Allen, sef mam-gu'r teulu: "Mae'n lle gwych i ddod â'r plant. Rydyn ni'n ymweld â gweithdy ‘Plantos y Glannau' yn aml - ma' nhw'n dwli arno"

Cyflwynodd Pennaeth yr Amgueddfa, Steph Mastoris, becyn swfenir i'r teulu sy'n cynnwys casgliad o lyfrau am yr Amgueddfa a thocyn rhodd i'w wario yn y siop.

Bu 2009 yn un o'r blynyddoedd gorau i'r Amgueddfa o ran perfformiad. Yr haf hwn (Gorffennaf - Medi) daeth 85,000 o ymwelwyr i'r Amgueddfa o'i gymharu â 68,000 y llynedd.

Wrth siarad am yr achlysur arbennig hwn, meddai Steph: "Mae'n anrhydedd mawr cael croesawu ymwelydd rhif 1,000,000 i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

"Yn ogystal â chynnig diwrnod allan difyr iawn i ymwelwyr, mae'r Amgueddfa'n chwarae rôl allweddol fel un o brif atyniadau Abertawe, gan ychwanegu at arlwy ddiwylliannol y ddinas a chwarae rhan bwysig yn y broses o'i hadfywio.

"Rydym wrth ein bodd i gael cynnig arddangosfeydd a digwyddiadau o safon, yn ogystal â lefel gwasanaeth y mae ymwelwyr yn dychwelyd ato dro ar ôl tro.

"Mae'r cyflawniad hwn yn ffordd addas o goroni blwyddyn ardderchog - edrychwn tua'r dyfodol nawr i groesawu ymwelydd rhif 2,000,000!"

Meddai'r Cynghorydd Graham Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe ar gyfer Diwylliant, Hamdden a Thwristiaeth: "Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wedi bod yn llwyddiant ysgubol ers iddi agor, ac mae'r ffigyrau ymwelwyr yn brawf o'i hapêl.

"Mae'r Amgueddfa'n cynnig profiad difyr ac addysgiadol, ac mae'r adeilad bellach yn rhan eiconig o Heol Ystumllwynarth a'n harfordir trawiadol ni.

"Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n cyfuno â sefydliadau eraill fel Amgueddfa Abertawe, Canolfan Dylan Thomas ac Oriel Glynn Vivian i gyfrannu tuag at gymuned ddiwylliannol Abertawe."

DIWEDD

Ffeithiau difyr

Agorodd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn swyddogol ddydd Mercher 17 Hydref 2005 ac mae wedi denu torfeydd o ymwelwyr gyda'i chasgliadau hynod, gweithgareddau rhyngweithiol difyr a rhaglen wych o arddangosfeydd dros dro byth er hynny.

Mae'r Amgueddfa'n bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Dinas a Sir Abertawe.

Cafodd y datblygiad £33.5m grant o £11 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri - y grant mwyaf i'w ddyfarnu yng Nghymru erioed.

Cynlluniwyd yr adeilad gan Wilkinson Eyre Architects. Mae'r adeilad cynnwys warws rhestredig Gradd II (Amgueddfa Diwydiant a Môr Abertawe gynt) sy'n gysylltiedig ag adeilad newydd trawiadol o wydr a llechi.

Mae'r Amgueddfa wedi'i lleoli yn Ardal Forol newydd Abertawe, ac mae'n gyfraniad tuag at adfywio'r ardal. Daeth gweddill y cyllid o gronfa Amcan Un Ewrop Llywodraeth y Cynulliad a chyfranwyr a noddwyr eraill.

Nodiadau i'r golygydd

Am fwy o wybodaeth neu am gyfle ffoto ffoniwch Marie Szymonski Swyddog Cyfathrebu Marchnata ar (01792) 638970.

Mae mynediad am ddim i holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru'n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.