Datganiadau i'r Wasg

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n croesawu Peter Lord yr hanesydd celf

Bydd yr hanesydd celf Peter Lord yn traddodi darlith ddydd Iau 26 Tachwedd ar delweddu'r Cymry diwydiannol, yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.

Bydd Peter sy'n arbenigo mewn astudio diwylliant gweledol Cymru yn olrhain datblygiad delweddu'r Cymry diwydiannol o'r 18fed ganrif hyd ganol y ganrif ddiwethaf.

Gwaith arlunwyr o'r tu allan i Gymru oedd llawer o'r delweddau cynnar ond o ddiwedd y 19eg ganrif ymlaen daeth delweddau'n fwy cyffredin gan artistiaid a ffotograffwyr a oedd eu hunain yn gynnyrch o'r gymdeithas ddiwydiannol. Yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd roedd tri unigolyn ym maes arlunio sef Evan Walters, Vincent Evans ac Archie Rees Griffiths oedd yn dominyddu'r maes.

Yr un olaf yn y gyfres lwyddiannus o sgyrsiau Diwydiant mewn celf - sgyrsiau ar y Sul yw sgwrs Peter.

'Croeso i Peter Lord i'r Amgueddfa,' meddai Pennaeth yr Amgueddfa Steph Mastoris. 'Bydd carwyr celf wrth eu boddau ac mae'n bleser i ni allu cynnig rhywbeth newydd a gwahanol i'n hymwelwyr.'

Mae Peter yn awdur hanes celf Cymru mewn tair cyfrol Diwylliant Gweledol Cymru. Mae ei gyhoeddiadau diweddar yn cynnwys The Meaning of Pictures: Images of Personal, Social and Political Identity (2009) a Richard Wilson: Life and Legacy (2009). Cymrawd ymchwil yw Peter Lord yng Nghanolfan Ymchwil i Lenyddiaeth Saesneg a'r Iaith Saesneg yng Nghymru, Prifysgol Abertawe.

Cynhelir Delweddu'r Cymry diwydiannol ddydd Iau 26 Tachwedd am 7pm. I archebu lle ffoniwch (01792) 638950.

Diwedd

Am fwy o fanylion ffoniwch Marie Szymonski, Swyddog Cyfathrebu Marchnata ar (01792) 638970.

Mae mynediad am ddim i'r saith amgueddfa genedlaethol diolch i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru'n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.