Datganiadau i'r Wasg

Charlie a Lola yn dod i Gaerdydd

Yr arddangosfa gyntaf i ddod â llyfrau Lauren Child yn fyw yn dod i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn barod i lwyfannu arddangosfa deuluol wahanol iawn! Mae’n cynnwys Pesky Rat’s Grubby Alley, magna-doodle, darluniau gwreiddiol gan Lauren Child a pheintiad Smotyn gan Damien Hirst!

Mae Green Drops and Moonsquirters: The utterly imaginative world of Lauren Child, a agorir yn swyddogol gan y gyflwynwraig BBC, Lucy Owen a’i theulu ddydd Sadwrn 21 Tachwedd 2009, yn gyfle i blant a’u teuluoedd gamu i fyd llyfrau Lauren Child – am ddim!

Mae llyfrau poblogaidd Child wedi bod yn swyno plant a’u rhieni ers bron i 10 mlynedd. Maen nhw’n cynnwys y cymeriadau poblogaidd Charlie a Lola (sydd bellach yn sêr mewn cyfres deledu Disney Playhouse a CBBC) yn ogystal â Clarice Bean, The Pesky Rat a Hubert Horatio Bartle Bobton-Trent.

Datblygwyd Green Drops and Moonsquirters: The utterly imaginative world of Lauren Child gan Oriel Gelf Manceinion ac fe’i seiliwyd ar ddarluniau, cymeriadau a themâu o lyfrau Lauren Child. Mae’r cwbl yn rhyngweithiol, ac mae’r arddangosfa’n cyfuno darluniau gwreiddiol gyda gweithgareddau ymarferol difyr:

• Dewch i eistedd wrth fwrdd cegin Charlie a Lola a pharatowch brydiau blasus gyda bwyd o’u hoergell

• Gwisgwch hoff ddillad Charlie a Lola gan gynnwys gwisg aligator Lola o I Am TOO Absolutely Small for School

• Perfformiwch sioe bypedau i’ch teulu a’ch ffrindiau mewn theatr a grëwyd o’r gwely pedwar postyn yn The Princess and the Pea

• Blaswch ddanteithion fel llaeth pinc Lola ym Mwyty Oriel yr Amgueddfa

• Prynwch anrhegion Charlie a Lola yn ein siop.

Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys dros 30 o ddarluniau gwreiddiol o lyfrau Lauren Child, sy’n adlewyrchu ei diddordeb mewn celf a dylanwad y cyfnod a dreuliodd yn astudio’r pwnc ym Manceinion. Wrth egluro’r hyn sy’n ei hysbrydoli i greu eu darluniau, meddai:

“Gludwaith yw fy ngwaith celf i gyd – felly dwi’n torri bob darn ac yn ei ludo i’w le. Dwi’n meddwl bod fy steil wedi datblygu’n naturiol – dwi ddim yn cael fy ysbrydoli gan un peth penodol. Dechreuais weithio trwy gyfrwng gludwaith yn rhannol gan fy mod yn ei chael hi’n anodd cynllunio fy narluniau. Roedd torri pethau allan yn golygu y gallwn symud pethau o amgylch a newid fy meddwl. Roedd hefyd yn golygu y gallwn gynnwys gwahanol weadau, ffotograffau a defnyddiau.”

Dechreuodd Child ei gyrfa fel cynorthwyydd i Damien Hirst drwy beintio smotiau iddo. Dyma’r rheswm pam fo un o beintiadau Smotyn Damien Hirst yn cael ei arddangos.

Dywedodd Beth McIntyre, Curadur (Printiau a Dyluniau), Amgueddfa Cymru:

“Rydyn ni’n disgwyl mai Green Drops and Moonsquirters: The utterly imaginative world of Lauren Child fydd ein harddangosfa fwyaf poblogaidd eleni! Mae’r cyfuniad o weithgareddau hwylus i blant - yn enwedig plant dan 7 oed – sy’n seiliedig ar eu hoff gymeriadau Lauren Child, darlun gwreiddiol gan Damien Hirst a darluniau hynod yr awdures ei hun yn golygu bod yr arddangosfa hon yn wirioneddol gwerth ei gweld.”

Bydd yr arddangosfa deithiol hon yn dod i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd 21 Tachwedd 2009-31 Ionawr 2010. Cynhelir rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau a gweithgareddau i gyd-fynd â’r arddangosfa gan gynnwys Diwrnodau o hwyl eithriadol i’r teulu a noddir gan gwmni esgidiau plant Funky Monkey Feet o Gaerdydd. Am ragor o wybodaeth ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk.

Mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a’r arddangosfa diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Cefnogir Green Drops and Moonsquirters: The utterly imaginative world of Lauren Child gan Gyngor Celfyddydau Lloegr.

Mae mynediad am ddim i'n saith amgueddfa genedlaethol diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol:

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Diwedd

Cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar (029) 20573185 / 07920 027067 neu catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk am:

- Ragor o wybodaeth

- Lluniau

- Cyfleodd cyfweld

- Bywgraffiadau cymeriadau Lauren

- Bywgraffiad Lauren

- Cwestiynau ac atebion gyda Lauren Child