Datganiadau i'r Wasg

Yn fwy ac yn well nag erioed o'r blaen - Ffair Grefftau'r Nadolig yn Amgueddfa Wlân Cymru

Bydd y trydydd Ffair Grefftau’r Nadolig yn cael ei chynnal yn Amgueddfa Wlân Cymru ar 28 o Dachwedd o 10yb tan 3yp, ac mae’n argoeli’n un dda gyda mwy o stondinau nag erioed o’r blaen.

Bydd dros 20 o stondinau yn bresennol yn gwerthu canhwyllau, gwaith pren, gemwaith, clociau, peintiadau sidan, sebon, cynnyrch gwlân a llawer mwy. Mae’r ffair grefftau wedi tyfu ers iddi ddechrau yn 2007, gyda mwy o stondinau a mwy o fynychwyr bob blwyddyn gyda mynediad am ddim, maes parcio cyfleus am ddim a’r siop a’r Amgueddfa ar agor.

Dywedodd Joanna Thomas, Rheolwraig Dros Dro Amgueddfa Wlân Cymru: “Mae’r Amgueddfa yn leoliad hyfryd ar gyfer Ffair Grefftau’r Nadolig gyda naws hyfryd, hanesyddol. Gyda digonedd o le parcio am ddim mae’n le perffaith i ddod i wneud eich siopa Nadolig ac i ddod o hyd i’r anrheg arbennig, gwahanol hwnnw.”

-diwedd-

Am fanylion pellach cysylltwch â Heledd Gwyndaf ar (01559) 370929