Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Wlân Cymru yn leoliad recordio'r Talwrn am y tro cyntaf erioed

Am y tro cyntaf erioed bydd Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru yn cael ei recrodio yn Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre ar nos Fawrth y 1af o Ragfyr am 7pm.

Bydd dau ornest yn cael eu recordio ar y noson, rhwng Ffostrasol a’r Garfan a rhwng Ffair Rhos a Beca. Er ei bod yr ochor arall i’r afon o’r Amgueddfa, yng Ngheredigion, Ffostrasol yw’r tim mwyaf lleol; mae eu gwrthwynebwyr, Y Garfan yn dod o Sir Gâr.

Bydd yr ornest arall rhwng Ffair Rhos o ardal Ystrad Meurig yng ngogledd Ceredigion a Beca o Sir Benfro. Mae’r rhain yn ornestau rhwng beirdd, eu timau a thair sir Dyfed.

Gornest farddoni yw Talwrn y Beirdd sydd wedi cael ei darlledu gan Radio Cymru ers 30 o flynyddoedd, ers 1979.

Dywedodd Joanna Thomas, Rheolwraig Dros Dro Amgueddfa Wlân Cymru: “Rydym yn hynod o falch o gael y cyfle i gynnal rhaglen sydd mor uchel ei pharch ac sydd o’r fath ansawdd. Mae Talwrn y Beirdd wedi chwarae rhan allweddol yn cadw’r traddodiad o gystadlu ymysg beirdd yn fyw, ac rydym yn ei groesawu yn wresog i Dre-fach Felindre ac i’r Amgueddfa Wlân.”

-diwedd-

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Heledd Gwyndaf on (01559) 370929