Datganiadau i'r Wasg

Darganfod chwilen brin yng ngogledd Cymru

Mae chwilen ddu sy’n brin yng Nghymru, yn gwichian wrth ei dal ac â genau pwerus, wedi cael ei darganfod mewn iard goed yn Ynys Môn.

Credir y daw’r chwilen corn-hir - rhywogaeth Morimus asper - sydd â chorff modfedd o hyd ac antena 1.5 modfedd o’r Eidal ac Iwgoslafia gynt. Mae larfau'r chwilen - a gyrhaeddodd Cymru drwy goed wedi eu mewnforio o Ewrop si?r o fod - yn bwydo ar bren marw.

Cysylltodd y darganfyddwr â gwyddonwyr yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac anfonodd luniau. Yna anfonwyd y chwilen at Brian Levey, Curadur Coleoptera Amgueddfa Cymru. Dywedodd:

“Mae’n debygol mai dyma’r tro cyntaf i chwilen Morimus asper gael ei darganfod yng Nghymru a gan ei fod yn dod o wlad â hinsawdd gynhesach na’r wlad hon, mae’n annhebygol y bydd yn ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig.”

Mae Amgueddfa Cymru’n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Cynigir mynediad am ddim i’n holl amgueddfeydd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Diwedd

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar (029) 2057 3185 neu 07920 027067.