Datganiadau i'r Wasg

'Hanes ar ei orau'

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru'n cael gwobr Sandford eto

Disgrifiodd y prif feirniad Eric Stedd ei ymweliad ag Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru fel 'hanes ar ei orau' a rhoddodd y wobr iddynt am yr ail dro.

Ystyrir gwobr Sandford sy'n ddilys am bum mlynedd fel asesiad o sicrwydd ansawdd a fernir yn annibynnol ar gyfer addysg treftadaeth. Cyflwynir y gwobrwyon yn flynyddol fel cydnabyddiaeth o ansawdd ac ardderchogrwydd yn y gwasanaethau addysgiadol a'r cyfleusterau sydd ar gael.

Mae Caerllion Rufeinig yn ddiau o bwys cenedlaethol a rhyngwladol. Ond mae gwobr Sandford yn dathlu’r ffordd mae’r Amgueddfa’n cyflwyno’r stori yma i ymwelwyr.

Clodforwyd yr Amgueddfa sy'n cynnig mynediad am ddim ac yn croesawu dros 26,000 o ddisgyblion ysgol y flwyddyn am y ffordd mae'n ystyried ei gwahanol gynulleidfaoedd ac yn darparu ar gyfer y cwricwlwm Cymreig a Seisnig.

Molwyd hefyd y berthynas rhwng y staff a'r athrawon:

“Mae'r staff a'r Swyddog Addysg yn haeddu'r wobr oherwydd eu brwdfrydedd, eu gofal a'u gwybodaeth,” meddai Mr Steed.

“Ni waeth faint mae'r ymwelwyr yn ei wybod wrth gyrraedd maent yn ymadael gan wybod mwy. Maent wedi dysgu gweld yn fwy craff a dehongli'n fwy deallus. Mae hyn yn codi o weithio'n agos gydag arweinwyr gwybodus a brwd a chanddynt y gallu eithriadol i gyfathrebu yn y ffordd fwyaf addas ar gyfer y gr?p dan sylw.”

Mae Ceri Black, Pennaeth Addysg yn Amgueddfa Cymru yn falch o'r adroddiad. Meddai:

“Llongyfarchiadau i Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ar ennill y wobr sy’n adlewyrchu ansawdd uchel ein hamgueddfeydd. Mae cael y wobr am yr ail waith yn deyrnged i ymroddiad y staff sy’n mynd allan o’u ffordd i groesawu ymwelwyr ac yn ychwanegu at gyfoeth eu profiad.

“Mae pob un o'n hamgueddfeydd erbyn hyn wedi cael y wobr ac mae rhaglen addysg yr Amgueddfa'n brysur o hyd ac yn boblogaidd gydag ysgolion ledled Cymru, Prydain a dramor.”

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol:

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe

Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion

Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru ym Mlaenafon

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yng Nghaerdydd

Cewch fwynhau mynediad am ddim i'n saith amgueddfa genedlaethol diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Diwedd

Am fwy o wybodaeth a ffotograffau cysylltwch â Catrin Mears ar (029) 20573185 neu 07920 027067 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.

Nodiadau i’r golygydd

Amgueddfa Cymru yw’r darparydd mwyaf ar gyfer Dysgu y Tu Hwnt i’r Dosbarth yng Nghymru. Bob blwyddyn, daw dros 230,000 i ymweld â’n hamgueddfeydd fel rhan o gr?p addysg ffurfiol.