Datganiadau i'r Wasg

Lansiad swyddogol pecyn offer cymunedol yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Cafodd pecyn offer treftadaeth gymunedol ei lansio’n swyddogol ddydd Sadwrn 28 Tachwedd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.

Mae’r pecyn, a gynhyrchwyd gan Amgueddfa Cymru, yn ffrwyth project amlweddog gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau o’r enw Traed Mewn Cyffion – Cymru a Chaethwasiaeth. Mae’r project hwn yn coffau deucanmlwyddiant y Ddeddf Diddymu Caethwasiaeth yn 2007.

Cynlluniwyd yr adnodd electronig hwn, sydd am ddim, i helpu pobl i ddeall y rhan a chwaraeodd Cymru yn y fasnach gaethwasiaeth trawsiwerydd. Ei nod yw annog unigolion, grwpiau a sefydliadau i archwilio hanes y fasnach, yn cynnwys ei hetifeddiaeth fodern, trwy gasgliadau amgueddfeydd. Hefyd mae’n cynnig syniadau, gweithgareddau a gweithdai ar gyfer sefydlu projectau cymunedol sy’n mynd i’r afael â phynciau fel hanes pobl dduon a threftadaeth Gymreig.

Mae gwaith partneriaeth wedi bod wrth galon y project hwn. Ers cychwyn ar y gwaith yn 2007, mae’r Amgueddfa wedi gweithio’n agos gydag amrywiaeth o grwpiau a sefydliadau cymunedol i adlewyrchu safbwyntiau cyfoes ar yr elfen bwysig hon o hanes y byd.

I ddathlu’r gwaith hwn, cynhelir lansiad arbennig ddydd Sadwrn 28 Tachwedd o 11am ymlaen ar gyfer pawb a gymerodd ran, cyfranwyr ac aelodau o’r cyhoedd. Bydd y digwyddiad yn gyfle i bobl roi cynnig ar y pecyn offer a mwynhau arddangosiadau drymio, gwisgoedd a dawnsio Affricanaidd yn ogystal â chrochenwaith a gwneud ffelt.

Meddai’r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones: "Rwy’n croesawu lansiad pecyn offer Traed Mewn Cyffion, gan ei fod yn bwysig ein bod ni’n parhau i ddod o hyd i ffyrdd effeithiol o godi ymwybyddiaeth o’r fasnach gaethwasiaeth drawsiwerydd, gan ddilyn ymlaen o’r arddangosfa i goffau 200 mlwyddiant ers pasio’r Ddeddf Diddymu Caethwasiaeth. Mae’r pecyn offer hwn yn cynrychioli etifeddiaeth barhaus i sefydliadau treftadaeth ar sut i ddehongli un o gyfnodau tywyllaf ein hanes mewn modd sensitif, a hoffwn longyfarch pawb a fu’n gweithio ar y project hwn."

Wrth siarad am y lansiad, meddai Sue James, Swyddog Addysg yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac arweinydd y project: “Rydym yn falch iawn o fedru lansio’r pecyn offer yn swyddogol. Mae’n ganlyniad llawer o waith caled gan lawer o wahanol bobl yn cynnwys cyfranogwyr a phartneriaid project.”

Meddai Steph Mastoris, Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau: “Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu i’r project hwn. Mae’n enghraifft dda arall o sut y gall gweithio mewn partneriaeth greu adnodd mor werthfawr.”

Wrth siarad am y pecyn offer, dywedodd Mike Houlihan, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: “Yn ystod y project hwn rhannwyd ystod o sgiliau a gwybodaeth rhwng amgueddfeydd ledled Cymru yn ogystal ag amrywiaeth eang o grwpiau ac unigolion o’r gymuned. Efallai mai’r peth pwysicaf i ni oedd yr ymroddiad cryf gan staff Amgueddfa Cymru i greu rhaglen a fedrai weithio gyda’r gynulleidfa ehangaf posibl wrth ymchwilio i’r pwnc pwysig hwn. Ymgysylltwyd â llawer o bobl o wahanol gefndiroedd diwylliannol, gan gynnwys rhai nad oedd wedi bod mewn amgueddfa o’r blaen, ac roedd yr ymgysylltu hwn yn rhan sylfaenol o’r project. Rwy’n si?r y bydd y pecyn offer yn ysbrydoli gwaith newydd ym meysydd treftadaeth a hunaniaeth gymunedol.”

DIWEDD

Nodiadau i’r golygydd

Am fwy o fanylion ffoniwch Marie Szymonski, Swyddog Cyfathrebu Marchnata, ar (01792) 638970.

Mae mynediad i Amgueddfa Cymru am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ledled Cymru:

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau