Datganiadau i'r Wasg

Archwiliwch y ffosilau o dan eich traed

Os ddewch chi i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau cewch gyfle i archwilio’r straeon cyffrous am flaengaredd a diwydiant yng Nghymru, ond nawr cewch gyfle hefyd i weld gweddillion gwely afon 300 miliwn o flynyddoedd oed!

Mewn taflen newydd o’r enw Trwodfaen Pennany – y ffosilau o dan eich traed, gall ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ddysgu am yr hanes tu ôl i’r cerrig pafin sy’n eu harwain at yr adeilad.

Gydag arian a ddyfarnwyd gan Sefydliad y Daearegwyr, bydd Richard Porch yn ymchwilio i’r wyddoniaeth tu ôl i’r llwybrau tonnog, gan ddangos eu tarddiad a sut y daethant i edrych fel yr hyn a welwn heddiw.

Cloddir Tywodfaen Pennant o fynydd Gwrhyd, Cwm Tawe Uchaf, ac fe’i ffurfiwyd wrth i haen ar ôl haen o dywod ffurfio yng ngheg afon dros gyfnod o fwy na 300 miliwn o flynyddoedd cyn troi’n graig drwy broses o gladdu, gwasgu, codi ac erydu.

Wrth siarad am yr astudiaeth, meddai Richard Porch: “Rwyf wedi ymddiddori yn hanes y cerrig pafin erioed. Mae ymwelwyr yr Amgueddfa’n cerdded dros y cerrig hyn bob dydd, a meddyliais y byddai’n ffordd wych o amlygu’r hyn sydd dan eu traed. Mae yna lawer o wyddoniaeth tu ôl i Dywodfaen Pennant ac roedd cael ymchwilio i hyn yn gyfle gwych”.

Gallwch lawrlwytho copïau o’r daflen o’n gwefan www.amgueddfacymru.ac.uk neu galwch heibio i godi copi.

DIWEDD

Am fwy o wybodaeth am Tywodfaen Pennant - y ffosilau o dan eich traed cysylltwch â Richard Porch ar (01792) 636489.

Mae mynediad i'n hamgueddfeydd am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru

Mae Amgueddfa Cymru'n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol sef

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.