Datganiadau i'r Wasg

Diwrnodau o hwyl eithriadol yn rhad ac am ddim

Charlie a Lola yn cwrdd â ffrindiau newydd yng Nghaerdydd

"Mwynhaodd eich merch 17 mis arddangosfa Lauren Child yn fawr. Roedd nifer o bethau i’w diddanu ac roedd rhaid i ni ei llusgo o’r gegin fach yn y pen draw, ble roedd hi’n brysur yn paratoi cinio!”

Louise o Gaerdydd

Mae dros 6,000 o bobl wedi mwynhau’r arddangosfa Green Drops and Moonsquirters: The utterly imaginative world of Lauren Child yn barod - yr arddangosfa gyntaf i ddod â llyfrau Lauren Child yn fyw a agorodd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ddiwedd mis Tachwedd.

Nawr, i ychwanegu at eich profiad gyda Charlie a Lola, mae’r Amgueddfa’n cynnal Diwrnodau o Hwyl Eithriadol ar ddydd Sadwrn 12 a 19 Rhagfyr 2009. Cynlluniwyd y digwyddiadau rhad ac am ddim (11 y bore – 4 y prynhawn), a gefnogir gan Arts & Business Cymru a chwmni esgidiau plant, Funky Monkey Feet, ar gyfer y teulu cyfan.

Dewch i wrando ar eich hoff stori Charlie a Lola ar glustogau’r Amgueddfa yn hytrach na’ch soffa chi, dewch i greu eich het parti eich hunain i’w wisgo ar Ddiwrnod Nadolig a chreu anrhegion yr ?yl ac addurniadau.

Bydd Santa hefyd yn ymweld â chefnogwyr Charlie a Lola’n gynnar i ddosbarthu anrhegion. Arhoswch tan 3:30 y prynhawn ar 19 Rhagfyr ac fe’i gwelwch yn arddangos gwisg Santa Masnach Deg arbennig a gynlluniwyd a chrëwyd gan fyfyrwraig yng Nghasnewydd gan ddefnyddio deunyddiau Masnach Deg a gwlân Cymreig wedi’u hail-gylchu.

Mae arddangosfa Lauren Child sy’n cynnwys Pesky Rat’s Grubby Alley, magna-doodle, darluniau gwreiddiol gan Lauren Child a pheintiad Smotyn gan Damien Hirst, ar agor bob diwrnod dros y Nadolig o 10 y bore than 5 y prynhawn heblaw am 24 – 26 a 28 Rhagfyr a 1 Ionawr 2010. Eich cyfle olaf i fwynhau’r arddangosfa fydd 31 Ionawr 2010.

Datblygwyd Green Drops and Moonsquirters: The utterly imaginative world of Lauren Child gan Oriel Gelf Manceinion ac fe’i seiliwyd ar ddarluniau, cymeriadau a themâu o lyfrau Lauren Child. Mae’r cwbl yn rhyngweithiol. Fe allwch chi hefyd flasu danteithion fel llaeth pinc Lola ym Mwyty Oriel yr Amgueddfa a phrynu anrhegion Charlie a Lola yn ein siop.

Mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a’r arddangosfa diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Cefnogir Green Drops and Moonsquirters: The utterly imaginative world of Lauren Child gan Gyngor Celfyddydau Lloegr.

Mae mynediad am ddim i'n saith amgueddfa genedlaethol diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol:

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru