Datganiadau i'r Wasg

Oes angen Amgueddfa Wyddoniaeth Genedlaethol ar Gymru?

Cynhadledd undydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i archwilio treftadaeth wyddonol Cymru

Mae nifer o wyddonwyr yn teimlo bod angen creu sefydliad arbennig i adrodd hanes gwyddoniaeth yng Nghymru. Bydd Amgueddfa Cymru yn cychwyn y drafodaeth yngl?n â’r angen am greu Amgueddfa Wyddoniaeth Genedlaethol yn Treftadaeth Wyddonol Cymru: Y Ffordd Ymlaen, sef cynhadledd undydd a gynhelir yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ddydd Iau, 18 Mawrth 2010.

Bydd siaradwyr o bob cwr o’r DU yn annog cynrychiolwyr i ystyried beth sydd angen ei wneud i ddiogelu a dathlu ein hetifeddiaeth wyddonol, dechnegol, beirianegol a mathemategol yn y gynhadledd (9 am - 4 pm) sy’n agored i bawb.

Bydd y diwrnod yn ystyried cyfraniad Cymru, ei phobl ac Amgueddfa Cymru i ddatblygiad gwyddoniaeth a thechnoleg; sut mae Cymru’n cymharu â gwledydd eraill fel yr Alban; a’r her o wneud y pwnc yn hygyrch i bobl ifanc.

“Mae gwyddoniaeth yn chwarae rhan bwysig wrth ein helpu i ddeall treftadaeth ein gwlad,” dywedodd John Williams-Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil, Amgueddfa Cymru.

“Wrth gynnal y gynhadledd mae’r Amgueddfa’n rhoi cyfle i bobl sydd â diddordeb yn y pwnc a hanes ein gwlad i drafod sut y gellir cyflwyno cyfraniad Cymru i ddatblygiad gwyddoniaeth.

“Mae straeon fel un Robert Recorde o Ddinbych-y-pysgod - dyfeisiwr y symbol hafal a ‘thad mathemateg Brydeinig,’ datblygiad canolfan ymchwil y byd ar gyfer Iechyd Nano ym Mhrifysgol Abertawe, ac adeiladu’r bont grog haearn gyntaf erioed sy’n cario’r A5 ar draws Afon Menai, yn haeddu cael eu rhannu gyda phobl Cymru a thu hwnt. Y cwestiwn fyddwn ni’n ei ofyn yw - sut y dylid gwneud hyn?”

Bydd Treftadaeth Wyddonol Cymru: Y Ffordd Ymlaen, yn cael ei gadeirio gan yr Athro Robin Williams FRS, ac yn agor gyda throsolwg yr Athro John Tucker o Ysgol Wyddoniaeth Ymarferol Prifysgol Abertawe o dreftadaeth wyddonol Cymru. Yna, cawn gipolwg ar wyddoniaeth yn Amgueddfa Cymru gan Dr Eurwyn Wiliam, Ceidwad Emeritws, Amgueddfa Cymru.

Bydd Dr Jeff Hughes, Uwch Ddarlithydd yng Nghanolfan Hanes Gwyddoniaeth, Technoleg a Meddygaeth Prifysgol Manceinion yn trafod tueddiadau cyfoes yn y pwnc, a bydd sgwrs Dr Adam Mosley, Uwch Ddarlithydd: Adran Hanes a Chlasuron Prifysgol Abertawe yn archwilio hanes casglu deunydd gwyddonol.

Bydd Dr Alison Morrison-Low, Prif Guradur Gwyddoniaeth, Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban, yn rhannu ei phrofiad fel Albanes yn y maes hwn cyn i’r gynhadledd gloi gyda thrafodaeth ar y ffordd ymlaen yng Nghymru.

Dylai unigolion sydd am gyfrannu at y drafodaeth yngl?n â beth ddylid ei gasglu, neu sydd am fod yn rhan o ddatblygu syniadau ar gyfer Amgueddfa Wyddoniaeth Genedlaethol yng Nghymru, fynd i’n gwefan www.amgueddfacymru.ac.uk i lawrlwytho ffurflen archebu neu ffonio’r swyddfa ddigwyddiadau ar 029 2057 3148/029 2057 3325 i archebu lle. Ffi’r gynhadledd yw £10, a’r dyddiad cau ar gyfer archebu lle yw dydd Gwener, 19 Chwefror 2010.

Mae mynediad i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol:

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Diwedd

Am fwy o wybodaeth, lluniau neu i drefnu cyfweliad, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar (029) 20573185 / 07920 027067 neu catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.