Datganiadau i'r Wasg

Cynlluniau i ddatblygu Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn cael cefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri

Mae strategaeth ddeng mlynedd i ailddatblygu atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru er mwyn creu Amgueddfa Hanes Cymru wedi cael hwb aruthrol heddiw. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) wedi rhoi sêl ei bendith i fwrw ymlaen â’r gwaith o gynllunio gwelliannau mawr yn Sain Ffagan. Yn ogystal, rhoddwyd gwerth £450,000 o gyllid datblygu i Amgueddfa Cymru er mwyn helpu i symud y project yn ei flaen.

Sain Ffagan

Mae llwyddiant yng nghylch cychwynnol CDL* yn golygu y caiff Amgueddfa Cymru symud ymlaen i’r ail gam yn y broses o wneud cais i’r gronfa. Mae ganddi ddwy flynedd i lunio a chyflwyno cynlluniau manylach a gwneud cais am weddill yr £8.7m o gymorth y mae’n ei geisio gan CDL ar gyfer y project £20.75m.

Agorodd Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ym 1948. Hi oedd amgueddfa awyr agored gyntaf Prydain. Ei nod oedd dangos ffordd y Cymry o fyw, gweithio a hamddena dros y 500 mlynedd diwethaf.

Heddiw, mae dros 40 o adeiladau gwreiddiol yn Sain Ffagan. Mae’r rhain wedi cael eu symud o bob rhan o Gymru ac wedi cael eu hail-godi i ddangos gwahanol gyfnodau yn hanes y genedl. Hi yw atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru, a’r amgueddfa awyr agored mwyaf poblogaidd ond un yn Ewrop. Mae’n denu dros 600,000 o ymweliadau rhad ac am ddim y flwyddyn.

Nod y cynlluniau y mae Amgueddfa Cymru wedi gofyn am gymorth CDL i’w gwireddu yw:

  • Cyflwyno’r Casgliad Archeoleg Cenedlaethol ac ymestyn y llinell amser i gwmpasu’r 250,000 mlynedd y mae pobl wedi bod yn byw yn yr ardal ddaearyddol yr ydym ni’n ei galw’n Gymru heddiw. Bwriedir buddsoddi er mwyn dehongli hyn ar draws y safle gan gynnig gwell blas ar stori Cymru a’i phobl a’i gosod yn ei chyd-destun yn nhermau hanes y byd.

  • Creu profiad integredig dan do ac awyr agored o fewn tirwedd goediog unigryw Sain Ffagan. Caiff lle dan do newydd ei greu ar dir yr amgueddfa a fydd yn cynnig cyfleuster glaw neu hindda y tu hwnt i’r prif adeilad presennol. Caiff orielau’r prif adeilad eu hailwampio’n llwyr er mwyn creu mannau dysgu ac arddangos newydd a hyblyg.

  • Llunio rhaglen estynedig o ddigwyddiadau a gweithgareddau i adlewyrchu’r llinell amser estynedig a gaiff ei phortreadu ar y safle. Bydd pwyslais ar brofiadau rhyngweithiol sy’n addas ar gyfer pobl o bob oedran a phob lefel o ddiddordeb. Mae’r Amgueddfa’n awyddus hefyd i gynnig mwy o gyfleoedd i wirfoddolwyr ac ehangu ei chysylltiad â’r cymunedau cyfagos.

  • Integreiddio’r safle’n ddaearyddol er mwyn ei gwneud yn haws i ymwelwyr fwynhau a deall cyd-destun Castell Sain Ffagan a’r dirwedd hanesyddol. Caiff hyn ei gyflawni trwy wella cyfeiriadedd a mynediad ym mhob rhan o’r safle a thrwy wella’r deunyddiau dehongli.

  • Gwella’r cyfleusterau ar gyfer ymwelwyr er mwyn sicrhau lefel uwch o lawer o gysur a mwynhad. Bydd darparu rhagor o orielau, mannau i gynnal gweithgareddau a mwy o ddarpariaeth tywydd gwlyb yn sicrhau bod profiadau i’w mwynhau yn Sain Ffagan gydol y flwyddyn. Caiff mannau newydd i werthu bwyd a diod eu creu a chaiff y ddarpariaeth tywydd gwael ei wella’n sylweddol trwy ailwampio’r hen orielau a chreu rhai newydd.

Wrth sôn am y penderfyniad i ddyfarnu cyllid datblygu, dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, Mike Houlihan:

“Rydyn ni ar ben ein digon bod Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi rhoi cefnogaeth gychwynnol i’r project cyffrous hwn sy’n eiconaidd i Gymru gyfan.

“Dros y 60 mlynedd diwethaf, mae Sain Ffagan wedi dod yn gartref i hanes Cymru – ac yn rhan annatod o’r hunaniaeth Gymreig. Hi yw’r lle y mae llawer o Gymry a thwristiaid o bedwar ban byd yn dod iddi’n selog i gael naws o stori’r genedl a’i phobl.

“Ein nod yw bodloni disgwyliadau pobl ar lefel uwch trwy greu atyniad ymwelwyr ar gyfer pob tymor yn Sain Ffagan. Bydd hyn yn cyfleu neges gref o newid a hunanhyder y genedl trwy adrodd straeon grymus a rhannu amrediad deniadol o brofiadau gyda’r ymwelwyr.

“Ein nod yw cadarnhau statws Sain Ffagan fel amgueddfa o safon ryngwladol ac atyniad anhepgor i bawb sy’n ymweld â Chymru – fel elfen allweddol o’r hyn sydd gan Gymru i’w chynnig ym maes twristiaeth ddiwylliannol – sy’n haeddiannol nid yn unig o gefnogaeth y Llywodraeth, ond hefyd nawdd masnachol a chymorth cyrff sy’n rhoi grantiau ac unigolion sydd am hyrwyddo Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain.”

Dywedodd Jennifer Stewart, Pennaeth CDL yng Nghymru; “Mae Sain Ffagan wedi chwarae rhan flaenllaw wrth ddiffinio ac archwilio hunaniaeth y Cymry, ac rydyn ni’n cefnogi cynlluniau cychwynnol Amgueddfa Cymru i wella’r ddealltwriaeth hon, a chreu profiad newydd cyffrous ar gyfer yr ymwelwyr.

“Yn ôl gwaith ymchwil, ein treftadaeth fyw sy’n ysbrydoli ein hymwelwyr yn fwy na dim byd arall. Bydd y cynnig i ehangu’r cyfleusterau dehongli rhyngweithiol, a’r profiadau yn Sain Ffagan yn rhoi cyfle i bobl Cymru ac ymwelwyr â’r wlad gael eu hysbrydoli wrth ddod wyneb yn wyneb â’r gorffennol.

“Cawsom ein plesio hefyd gan y cynlluniau i wirfoddolwyr chwarae rhan weithgar ym mywyd yr amgueddfa ac wrth fynd â straeon Cymru ar led. Mae’r cynnig wedi bodloni nifer o’n blaenoriaethau trwy hynny ac felly rydyn ni wedi dyfarnu grant datblygu er mwyn cydnabod potensial y project a’r manteision a allai ddod i Gymru yn ei sgil. Mae cystadlu mawr am ein grantiau, felly bydd angen i Amgueddfa Cymru ddatblygu ei chynlluniau yn llawn nawr er mwyn cystadlu am ddyfarniad cadarn.”

Ychwanegodd y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones: “Rydw i wrth fy modd bod Amgueddfa Cymru wedi cael y newyddion ardderchog yma gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Mae gan Sain Ffagan le arbennig iawn yng nghalonnau’r Cymry. Bydd yr ailddatblygiad hwn yn cadw’r pethau sy’n gwneud y safle yn lIe mor unigryw a phoblogaidd, ond yn ei drawsnewid er mwyn creu atyniad ymwelwyr o safon ryngwladol. Bydd y lle hefyd yn cynnig porth i’n hanes a’n diwylliant i dwristiaid sy’n ymweld â Chymru.

“Hoffwn i longyfarch yr Amgueddfa ar eu gwaith hyd yn hyn gan edrych ymlaen at y cam nesaf yn yr ailddatblygiad cyffrous hwn.”

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Robin Gwyn, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, 029 2057 3162 / 07810 657172 robin.gwyn@amgueddfacymru.ac.uk

Nodiadau i Olygyddion:

1. *Ystyr llwyddo yn y cylch cyntaf yw bod y project yn bodloni ein meini prawf ar gyfer cyllid a’n bod ni’n credu bod ganddo’r potensial i gyflawni manteision o ansawdd uchel a sicrhau gwerth am arian y Loteri. Roedd y cais hwn yn cystadlu â phrojectau eraill, felly mae llwyddiant yn y cylch cyntaf yn rhoi sêl bendith i’r cynigion amlinellol. Ar ôl llwyddo yn y cylch cyntaf, mae hyd at ddwy flynedd gan y project i gyflwyno cynlluniau cyflawn i gystadlu am ddyfarniad cadarn.

O bryd i’w gilydd, caiff ymgeisydd sydd wedi llwyddo yn y cylch cyntaf ddyfarniad o gyllid datblygu er mwyn helpu gyda’r gwaith sydd ynghlwm wrth ddatblygu’r cynllun.

Gan ddefnyddio arian a godir trwy’r Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) yn cynnal ac yn trawsnewid treftadaeth o bob math er mwyn i ni heddiw a chenedlaethau’r dyfodol elwa arnynt, dysgu ohonynt a’u mwynhau. O amgueddfeydd, parciau a mannau hanesyddol i archeoleg, yr amgylchedd naturiol a thraddodiadau diwylliannol, rydyn ni’n buddsoddi ym mhob rhan o’n treftadaeth amrywiol. Mae CDL wedi cefnogi 33,900 o brojectau, gan ddyrannu £4.4biliwn ar draws Prydain. Gwefan: www.hlf.org.uk

2. Mae Amgueddfa Cymru yn gweithredu saith o amgueddfeydd ledled Cymru, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Ceir mynediad am ddim i’r holl amgueddfeydd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

3. Ffigurau Twristiaeth:

  • Mae 4 o bob 10 ymwelydd hamdden yn dweud taw treftadaeth yw’r brif ffactor a’i hysgogodd i ddod i Brydain - mae hynny’n fwy nag unrhyw un ffactor arall.
  • Mae 53% o’r boblogaeth yn mynd ar drip i gael blas ar awyrgylch tref neu ddinas hanesyddol o leiaf unwaith y flwyddyn.
  • Mae 42% yn ymweld ag amgueddfa neu oriel.
  • Amcangyfrifwyd bod dros 40 miliwn o ymweliadau ag amgueddfeydd ac orielau y flwyddyn.
  • Ceir 1.2 biliwn o ymweliadau â chefn gwlad.
  • Dros 10 miliwn â pharciau hanesyddol.
  • Dros 38 miliwn â thai hanesyddol, eglwysi cadeiriol a chestyll.
  • Dros 250 miliwn â chamlesi a dyfrffyrdd mewndirol Prydain.
  • Mae tai hanesyddol mewn perchnogaeth breifat yn chwarae rhan wrth gynnal 14 miliwn o ymweliadau bob blwyddyn.
  • Mae maint sector twristiaeth treftadaeth Prydain (gan gynnwys treftadaeth naturiol) yn fwy na £12.4biliwn y flwyddyn ac mae’n cynnal tua 195,000 o swyddi cyfateb ag amser llawn – mae hyn yn golygu bod y sector yn fwy na’r diwydiant hysbysebu, ceir neu ffilm.
  • Mae pwysigrwydd perthynol twristiaeth ddomestig yn glir – daw gwerth £7.5biliwn o wariant, neu 60% o’r cyfanswm, o bocedi trigolion Prydain ar deithiau diwrnod neu ar eu gwyliau ym Mhrydain.