Datganiadau i'r Wasg

Materion ariannol

Celc Ceiniogau Llanfaches yn cael ei harddangos yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Ym mis Mehefin 2006, daeth olrheiniwr metel o hyd i bron i 600 o geiniogau Rhufeinig mewn cae rhwng Caerllion a Chaerwent. Mae’r casgliad hon, un o’r celciau mwyaf o geiniogau arian o’r 2ail Ganrif a gofnodwyd yn y Brydain Rhufeinig, yn cael ei harddangos yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion.

Mae’r 599 denarii arian, neu Celc Llanfaches yn dyddio’n ôl i AD160 ac feu’u dyfarnwyd yn drysor gan grwner Gwent David Bowen ym mis Gorffennaf 2007. Fe’u cafflwyd gan Amgueddfa Cymru sydd yn eu harddangos yn agos at y man y’u canfuwyd.

"Mae Llanfaches rhwng caer yr ail lynges Awgwstaidd yng Nghaerllion a chanolbwynt y llwyth lleol, Venta Silurum, yng Nghaerwent,” dywedodd Edward Besly, Ceidwad Cynorthwyol Archeoleg a Nwmismatydd Amgueddfa Cymru.

“Gall y ceiniogau fod yn gynilion oes milwr wedi ymddeol a ymgartrefodd yn lleol neu enillion masnachol yn perthyn i Gaerllion neu Gaerwent. Mi fyddant wedi cynrychioli cyflog tua dwy flynedd ar gyfer milwr fyddai wedi cymryd lot mwy o amser i’w gynilo!”

Ers iddyn nhw ddod yn rhan o gasgliad Amgueddfa Cymru mae’r ceiniogau, sy’n dangos Ymerawdwyr Rhufeinig gan gynnwys Hadrian a Nero wedi mynd drwy broses o gadwraeth a nawr yn barod i gael eu harddangos.

Ychwanegodd Dai Price, Rheolwr yr Amgueddfa:

“Dyma gasgliad gwych o geiniogau, sy’n cynnig dimensiwn newydd i’r rheiny sy’n ymweld â’r Amgueddfa. Un o’n hamcanion yw gwneud bywyd 2,000 o flynyddoedd yn ôl mor fywiog ag sy’n bosibl ac mae’r celc hon yn ein galluogi i adrodd mwy o hanesion. Byddai un geiniog yn unig o’r celc wedi talu am ddiwrnod o waith yn AD160!”

Mae Amgueddfa Cymru’n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru. Y rhain yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.

Cynigir mynediad am ddim i Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru diolch i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Diwedd

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar 029 2057 3185 neu anfonwch e-bost: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk