Datganiadau i'r Wasg
Drama bwerus yn cael ei llwyfannu yn y Glannau
Dyddiad:
2010-11-16Caiff drama bwerus a hudol yn archwilio gwreiddiau, digwyddiadau a safbwyntiau gwahanol Terfysgoedd Tonypandy ym 1910 ei pherfformio yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau y penwythnos hwn, Sul 21 Tachwedd.
Mae Tails from the Horse’s Mouth gan Spectacle Theatre yn adrodd hanes sensitif ac angerddol un o deuluoedd y Cymoedd ym merw streic Glowyr y Cambrian ym 1910. Gan ddefnyddio cymysgedd o gerddoriaeth, effeithiau sain a goleuo, mae’r stori’n dilyn eu hanes wrth i dri plisman symud atynt i letya.
Crëwyd y ddrama gan sefydliadau ac unigolion o bob oed drwy Rhondda Cynon Taf ac mae wedi bod yn boblogaidd gydag ysgolion a grwpiau cymunedol yn barod.
Dywedodd Steve Davis , Cyfarwyddwr Celfyddydol Spectacle Theatre: “Mae’n bleser gennym gael y cyfle i berfformio’r ddrama yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau y penwythnos hwn.
“Mae wedi bod yn boblogaidd ym mhob cwr o’r Rhondda yn barod – mae’n gyfle i goffau digwyddiadau gan mlynedd yn ôl ond mae hefyd yn gyfle i ddysgu amdanom ni’n hunain a’r hyn y gobeithiwn fod yn y dyfodol.”
Mae cysylltiad hefyd rhwng y ddrama ac arddangosfa nesaf yr Amgueddfa, Streic a Therfysg (20 Tach i 3 Ebrill) – golwg fanwl ar amseroedd cythryblus yn hanes diwydiannol Cymru.
Bydd Tails from the Horse’s Mouth yn cael ei pherfformio yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau y penwythnos hwn Sul 21 Tachwedd am 2.30pm.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Amgueddfa ar 01792 638950.
Am ragor o wybodaeth am Spectacle Theatre cysylltwch â Elaine Lord, Rheolwr Marchnata ar 01443 430700 neu ewch i www.spectacletheatre.co.uk
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Marie Szymonski, Swyddog Cyfathrebu Marchnata ar 01792 638970.
Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.
Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru
• Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
• Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
• Amgueddfa lleng Rufeinig Cymru, Caerllion
• Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru
• Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach
• Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis
• Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe