Datganiadau i'r Wasg

Diogelu'r amgylchedd – a fedrwn ni ei fforddio?

Wrth i Flwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth a chynhadledd bioamrywiaeth Nagoya ddirwyn i ben, daeth nifer o bartneriaid o Gymru at ei gilydd yn y Senedd nos Fawrth (9 Tachwedd) i wrando ar y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Jane Davidson, yn pwysleisio’r angen i ni amddiffyn ein bioamrywiaeth yng Nghymru, er gwaethaf pwysau’r hinsawdd economaidd sydd ohoni.

 

Mae bioamrywiaeth yn rhan sylfaenol o systemau cynnal bywyd y Ddaear, ac mae’n cynnal llawer o’n hanghenion dynol mwyaf sylfaenol e.e. ein hangen am fwyd, aer, pridd ffrwythlon, a hyd yn oed dodrefn. Rydyn ni’n dibynnu ar fioamrywiaeth, ac mae’n eironig felly mai ni, y bobl, yw’r bygythiad mwyaf i’w dyfodol. Eleni – yn ystod Blwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth 2010 – mae nifer o sefydliadau Cymru wedi dod at ei gilydd i helpu eraill i ddeall bioamrywiaeth a sut mae’n gweithio er mwyn i ni allu gwneud penderfyniadau doeth am sut i’w chynnal.

 

Lluniodd y bartneriaeth fideo gafodd ei ddangos yn y digwyddiad ar nos Fawrth. Roedd yn cynnwys cyfweliadau ag aelodau’r cyhoedd, oedd yn dangos bod pobl yn cysylltu bioamrywiaeth â byd natur, er nad oedd ei phwysigrwydd yn cael ei gydnabod. Pan ofynnwyd y cwestiwn Beth mae bioamrywiaeth yn ei golygu i chi? roedd yr ymatebion yn amrywio o ‘ai band yw e?’ i ‘popeth o’ch cwmpas.’

 

“Mae’n destun pryder fod cymaint o bobl dal ddim yn deall yn glir beth yw bioamrywiaeth, pam mae’n bwysig a’r manteision rydyn ni’n eu cael ohoni,” meddai Jane Davidson.

 

“Mae pobl dan yr argraff bod y camau sy’n arwain at golli bioamrywiaeth yn cael eu cymryd mewn byd gwahanol. Mae’n bosibl bod hyn oherwydd y pwyslais sy’n cael ei roi ar y broblem fyd-eang, sy’n peri i bobl feddwl ei fod yn broblem fydd ddim yn effeithio arnyn nhw’n uniongyrchol.”

 

Pwysleisiwyd bod angen i bawb barhau i wella’u hymdrechion i godi proffil bioamrywiaeth yng Nghymru. Yr hyn mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru a sefydliadau eraill yn ceisio’i wneud yw helpu pobl i ddeall gwerth a manteision bioamrywiaeth i’w bywydau nhw, a sut mae’n galluogi iddyn nhw fyw a mwynhau eu bywydau bob dydd. Y gobaith yw y bydd hyn yn ein harwain ni oll i fod yn fwy bodlon i’w hamddiffyn.

 

Tynnwyd sylw hefyd at y cysylltiadau rhwng amgylchedd naturiol Cymru ac economi Cymru gan y Gweinidog a chan Jonathan Jones, Cyfarwyddwr Twristiaeth a Marchnata Croeso Cymru.

 

“Mae 70% o’r bobl sy’n ymweld â Chymru yn dewis dod yma oherwydd y dirwedd a’r amgylchedd naturiol,” meddai Mr Jones. “Fodd bynnag, mae’n bwysig nad yw’r llywodraeth yn mynd ar ôl arian yn unig. Gall gormod o bobl ddifetha’r amgylchedd naturiol.”

 

Ni chafodd targedau’r Undeb Ewropeaidd i atal colli bioamrywiaeth erbyn 2010 eu cyflawni. Roedd gair olaf y Gweinidog yn cario’r neges bod angen i ni osod targedau uchelgeisiol, realistig a chyraeddadwy ar gyfer 2020, targedau y gellid eu gweithredu’n lleol ac yn fyd-eang.

 

- Diwedd -

 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:

Catrin Mears, Amgueddfa Cymru ar 029 2057 3185 neu e-bostiwch: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.

 

Nodiadau i olygyddion:

 

Trefnwyd y digwyddiad gan bartneriaeth o sefydliadau o bob cwr o Gymru sy’n chwarae rhan weithredol wrth geisio cynnal bioamrywiaeth: Amgueddfa Cymru, Ancient Tree Hunt/Coed Cadw, BBC Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cyngor Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Canolfan Darwin, Coed Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd – Cymru, Ynys Echni/Bay Wetlands, Institute of Ecology and Environmental Management, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Natur Cymru, Y Brifysgol Agored, RSPB Cymru, Ymddiriedolaeth y Môr, SEWBReC, Cyngor Abertawe, Prifysgol Abertawe, Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru, Parc Geneteg Cymru, Ymddiriedolaethau Natur Cymru.

 

Mae llawer o’r sefydliadau sy’n rhan o’r ymgyrch yng Nghymru hefyd yn rhan o bartneriaeth sydd ag aelodau o bob cwr o’r DU. Y gobaith yw y bydd modd helpu pobl i ddeall y pwnc a materion cysylltiedig yn well a chlywed am rai o’r straeon o lwyddiant sy’n gallu dangos ffordd bositif ymlaen. Am fwy o wybodaeth ar sut i gymryd rhan, neu am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau’r DU yn ystod Blwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth, ewch i: www.biodiversityislife.net.