Datganiadau i'r Wasg

Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cynulliad Cymru: ymateb gan David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Cymru

Ymatebodd Amgueddfa Cymru heddiw (Gwener, 19 Tachwedd 2010) i’r newyddion y bydd y sefydliad yn dioddef toriad yn y Grant Cymorth Refeniw dros y tair blynedd nesaf. Meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

“Bydd Amgueddfa Cymru – fel sawl corff arall a ariennir gan arian cyhoeddus – yn wynebu cyfnod o gwtogi nas gwelwyd o’r blaen dros y blynyddoedd nesaf.

“Drwy’r gyllideb hon, fodd bynnag mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cydnabod bod diwylliant a threftadaeth yn hanfodol bwysig i bobl Cymru ac wedi cadarnhau ei hymrwymiad i alluogi Amgueddfa Cymru i barhau â’i horiau agor arferol, ei hymrwymiad i weithio ag amgueddfeydd ac orielau lleol ledled Cymru, a chynnal y polisi mynediad am ddim.

“Mae gennym gynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol a byddwn yn canolbwyntio ar sicrhau eu bod yn cael eu gwireddu fel y bwriadwyd.

“Mae’n prif brojectau yn cynnwys agor yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol yn ogystal â chymal cyntaf ailwampio’r orielau hanes natur, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd erbyn Gorffennaf 2011.

“Ein bwriad wedi hyn yw i ddatblygu Sain Ffagan dros y 10 mlynedd nesaf – project cyffrous wrth galon economi twristaidd Cymru fydd o fudd i Gymru gyfan. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cynulliad Cymru am gadarnhau eu bod yn cefnogi buddsoddi yn nyfodol yr atyniad twristaidd eiconig hwn.

“Bydd y gyllideb hefyd yn effeithio ar Grant Prynu Eitemau Amgueddfa Cymru. Tra bydd y nawdd sydd ar gael yn cwtogi’n sylweddol ar ein gallu i brynu eitemau, mi fyddwn, fodd bynnag, yn dwysáu ein hymdrechion i ganfod ffynonellau nawdd eraill ar gyfer datblygu’r casgliadau.

“Mae’n ddeng mlynedd bron er i Lywodraeth Cynulliad Cymru ymrwymo i ariannu mynediad am ddim i’n saith Amgueddfa Genedlaethol ac, yn ystod y dirwasgiad rydym wedi gweld cynnydd yn niferoedd yr ymwelwyr i’n Hamgueddfeydd. Croesawom gyfanswm o 1.64 miliwn o ymweliadau yn ystod 2009-10 (+9.4% uwchlaw’r targed), yn cynnwys dros 400,000 o ymweliadau addysg ffurfiol ac anffurfiol, yr ail flwyddyn orau erioed. Mae mwy fyth o alw am ein gwasanaethau felly, yn enwedig o’r sawl sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf gan y wasgfa economaidd.

“Mae gan ein saith Amgueddfa Genedlaethol rôl flaenllaw i’w chwarae ym meysydd diwylliant, treftadaeth a thwristiaeth, addysg a sgiliau, a hybu economïau lleol. Byddwn yn parhau i roi blaenoriaeth i gynnal gwasanaethau i’r cyhoedd ym mhob Amgueddfa drwy drefnu rhaglenni ac arddangosfeydd bywiog, er bod yr adnoddau i gyflawni hyn wedi derbyn ergyd drom.

“Yn y cyfamser, mae Amgueddfa Cymru wedi gwneud gwaith cynllunio trylwyr dros y ddwy flynedd ddiwethaf i gynyddu effeithiolrwydd ac arbed arian er mwyn paratoi ar gyfer cyllideb lai o 2011-12 ymlaen, yn cynnwys cynllun ymddeol gwirfoddol a lleihau costau egni. Byddwn yn parhau i geisio canfod ffyrdd o weithredu’n fwy economaidd ac yn fwy effeithiol.”

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru, ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.

Diwedd

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Catrin Mears, y Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol ar (029) 2057 3185/07920 027067 neu ebostiwch catrin.mears@museumwales.ac.uk.