Datganiadau i'r Wasg

Croesawu Nadolig gwyrdd ar y Glannau

Mae’r Nadolig yn prysur nesau ac mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn troi’n wyrdd i ddathlu’r ?yl.

Y penwythnos hwn (Sadwrn 27 a Sul 28 Tach), bydd Ffair Werdd Nadoligaidd yn cael ei chynnal ym mhrif neuadd yr Amgueddfa lle gall ymwelwyr bori drwy 70 a mwy o stondinau yn cynnig anrhegion a chynnyrch sy’n ffafriol i’r amgylchedd megis gemwaith wedi’i ailgylchu, dillad a chardiau Nadolig, siocled a danteithion masnach deg a nwyddau moesegol i’r cartref.

Yna ar Sul 5 Rhag am 2.30pm, bydd yr Amgueddfa yn croesawu y cyflwynydd teledu a’r eco-beiriannydd Dick Strawbridge fydd yn rhoi cyflwyniad ymarferol a hwyliog i beiriannu sy’n ffafriol i’r amgylchedd. Bydd yr arddangosiad rhyngweithiol a’r sgwrs rad ac am ddim yn cynnwys cyngor a syniadau ar sut i gael llai o effaith ar yr amgylchedd o ddydd i ddydd.

Wrth siarad am y gweithdy, dywedodd Dick: “Rwyf wrth fy modd i gynnal y digwyddiad hwn yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Byddaf yn sôn am bob agwedd o fyw yn gynhaliol ac yn ateb cwestiynau ar bopeth! Felly os nad ydych chi’n gwybod y gwahaniaeth rhwng Celloedd Ffotofoltaig ac Wmbelifferau, neu’n cael eich drysu gan y ffyrdd gorau o arbed arian ar filiau egni: dewch draw i wrando ac am sgwrs.”

Ymddangosodd Dick yn rownd derfynol Celebrity MasterChef yn ddiweddar ac mae’n cyflwyno Scrapheap Challenge a Coast. Mae wedi bod ynghlwm ag amryw o raglenni amgylcheddol o Planet Mechanics ar sianel National Geographic i’r gyfres byw cynaliadwy ac eco dechnoleg It’s Not Easy Being Green – lle symudodd Dick a’i deulu i gartref newydd yng Nghernyw ac ymdrechu i fyw bywyd mor wyrdd a phosibl, gan ddefnyddio egni adnewyddol ac adnoddau sy’n ffafriol i’r amgylchedd.

Bydd cyfle i ymwelwyr hefyd brynu llyfr Dick – Practical Self Sufficiency, the complete guide to sustainable living – o siop yr Amgueddfa a gallwch ofyn i Dick ei arwyddo o 3.30pm ymlaen.

Ac nid dyna’r cwbl – gall ymwelwyr â’r Amgueddfa weld coeden Nadolig wahanol iawn, wedi’i dylunio a’i hadeiladu (yn gyfan gwbl) gan fyfyrwyr o Brifysgol Fetropolitan Abertawe.

Ar hyn o bryd mae’r goeden, sydd wedi’i gwneud o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu, yn sefyll yn y Brif Neuadd a bydd i’w gweld yno tan ddydd Iau 6 Ionawr 2011.

“Gall y teulu cyfan fwynhau ein tymor Nadoligaidd llawn hwyl y Rhagfyr hwn,” meddai pennaeth yr Amgueddfa, Steph Mastoris. “Ffilmiau, celf a chrefft, coed Nadolig anarferol, beth bynnag sy’n mynd â’ch bryd, mae rhywbeth yma at ddant pawb tra’n cysgodi rhag y ffws a’r ffwdan a’r tywydd garw. Ymunwch â ni a phrofi’r Nadolig ar y Glannau!”

Yn ogystal â hyn…gall ymwelwyr archwilio rhyfeddodau Gwledd y Gaeaf sydd wedi’i lleoli ger prif fynedfa’r Amgueddfa. Am ragor o fanylion ewch i www.swanseachristmas.com

Digwyddiadau Nadoligaidd

• 27 a 28 Tach: Ffair Werdd Nadoligaidd (10am-4pm).

• 5 Rhag: Esbonio Eco-Beiriannu gyda Dick Strawbridge (2.30pm, arwyddo llyfr am 3.30pm).

• 11 a 12 Rhag: Adeiladu Mawr, sialens beiriannu ar raddfa fawr yn defnyddio metel sgrap i wneud coeden Nadolig anferth (1.30pm).

• 19-23 Rhag: Ffilm Nadoligaidd i’r teulu (2.30pm).

• 27-31 Rhag: Disgleiria, gweithdy galw draw yn ailgylchu papur lapio a chardiau (1-4pm).

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Marie Szymonski, y Swyddog Cyfathrebu Marchnata ar 01792 638970.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru

• Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

• Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

• Amgueddfa lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

• Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

• Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach

• Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

• Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe