Datganiadau i'r Wasg

Y Glannau yn croesawu EUB Dug Caerloyw

Heddiw, dydd Sadwrn 2 Ebrill, bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn derbyn ei hail ymweliad brenhinol gan Ei Uchelder Brenhinol Dug Caerloyw.

Mae’r ymweliad yn rhan o’r dathliadau i nodi 70 mlynedd ers ffurfio 3ydd Corfflu Hyfforddi Awyr Welsh Wing, Stryd Morgannwg, Abertawe.

Yn ystod yr ymweliad, bydd Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi dros Orllewin Morgannwg D. Byron Lewis ac Uchel-Siryf Gorllewin Morgannwg Rowland W. P. Jones yn ymuno a’i Uchelder Brenhinol Dug Caerloyw ac yn cael eu cyflwyno i Lywydd Amgueddfa Cymru, Paul Loveluck a Phennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Steph Mastoris. Hefyd yn mynychu’r digwyddiad bydd gwesteion blaenllaw o’r Corfflu Hyfforddi Awyr, Dinas a Sir Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Nedd Port Talbot.

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn dathlu ffigurau ymwelwyr gwych eleni ac yn ganlyniad buddsoddiad mawr gwerth miliynau o bunnoedd ar y cyd rhwng Amgueddfa Cymru Dinas a Sir Abertawe a Chronfa Treftadaeth y loteri.

Mae’r adeilad wedi ennill gwobrau ac mae bellach yn gartref i hanes diwydiannol Cymru ac yn ychwanegiad poblogaidd i arlwy diwylliannol Abertawe. Mae Ynyr Amgueddfa gyfres o orielau rhyngweithiol ac ystod o wrthrychau mawr a bach o replica o locomotif stêm gyntaf y byd i esgidiau glaw’r Fonesig Shirley Bassey!

Wrth siarad am yr ymweliad, dywedodd Pennaeth yr Amgueddfa, Steph Mastoris: “Rydyn ni wrth ein bodd, ac yn falch o’r anrhydedd o groesawu Ei Uchelder Brenhinol Dug Caerloyw i’r Amgueddfa ac o gynnal dathliadau 70 mlynedd ffurfio’r Corfflu Hyfforddi Awyr.”

Nodiadau i Olygyddion

Mae croeso i aelodau’r wasg – cysylltwch â Marie Szymonski ymlaen llaw ar 01792 638970 os ydych chi’n bwriadu mynychu.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon

Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach

Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe