Datganiadau i'r Wasg

Arddangosfa Creu Hanes: 1500-1700

Am 2pm, dydd Sadwrn 9 Ebrill 2011, bydd Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn agor ‘Creu Hanes: 1500-1700’ arddangosfa a chyfres o ddigwyddiadau cyffrous yn edrych ar y ddwy ganrif gythryblus yn hanes Cymru.

Mae Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn paratoi cynllun cyffrous i greu math newydd o amgueddfa. Drwy ddefnyddio orielau, y tirlun a’r adeiladau hanesyddol, yn ogystal â chyfuno’r casgliadau archaeoleg a hanes y nod yw creu profiad cyffrous i ymwelwyr.

Fel rhan o’r paratoadau, bydd yr Amgueddfa’n arbrofi â chyfres o ddigwyddiadau sy’n adlewyrchu’r ddwy ganrif rhwng 1500 a 1700.

Bydd Creu Hanes: 1500-1700 yn cyfuno’r casgliadau hanesyddol ac archeolegol, sgyrsiau arbenigol, digwyddiadau ail-greu ac adeiladau hanesyddol yr Amgueddfa i gynnig cipolwg i’r ymwelydd ar rai o drobwyntiau yn hanes Cymru. Fel llawer o wledydd eraill, fe welodd Cymru newidiadau enfawr rhwng 1500 a 1700. Hwn oedd cyfnod brenhinoedd a breninesau’r Tuduriaid a’r Stiwardiaid; cyffro crefyddol; uno Cymru â Lloegr a rhyfeloedd cartref.

Mae’r arddangosfa’n cynnwys gwely cerfiedig cain Rhys ap Thomas o Ddinefwr, g?r pwerus a chwaraeodd ran hollbwysig ym muddugoliaeth Harri Tudur ym Mrwydr Bosworth; cerflun cuddiedig o Grist ar y groes achubwyd rhag distryw'r Diwygiad Protestannaidd a thrysor go iawn gafodd ei guddio o olwg lluoedd Seneddol Oliver Cromwell mewn adeilad yn Sir Benfro.

Agor Creu Hanes: 1500-1700

Trefn y digwyddiadau ar gyfer 9 Ebrill 2011

10.30am-12.30pm Yr Organ yn yr Eglwys

Cyfle i glywed replica prydferth o organ ganoloesol yn cael ei chanu am y tro cyntaf, yn Eglwys Sant Teilo. Mae’r organ addurnedig wedi’i seilio ar ddarnau sydd wedi goroesi o organau o’r cyfnod; mae wedi’i hail-adeiladu yn defnyddio deunyddiau traddodiadol ac yn defnyddio ymchwil fodern ac archaeoleg arbrofol i ail-greu sain coll yr organ ganoloesol.

1pm-2pm, Rhoi Hanes ar Waith, Oriel 1

Golwg ar rai o ddigwyddiadau’r flwyddyn gydag actorion a gweithdai celf.

2pm, Bethan Lewis, Pennaeth yr Amgueddfa yn agor yr arddangosfa newydd.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.