Datganiadau i'r Wasg

Llwyfan newydd i gelf yng Nghymru

Cwblhau orielau celf modern a chyfoes newydd

Amgueddfa Gelf Genedlaethol i Gymru

O 9 Gorffennaf 2011 ymlaen, bydd gan Gymru ei Hamgueddfa Gelf Genedlaethol ei hun fydd yn arddangos ystod lawn ein casgliad celf cenedlaethol o safon ryngwladol mewn un lle, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Am y tro cyntaf, bydd casgliad Amgueddfa Cymru o gelf cain a chymwysedig – o’r hanesyddol i’r cyfoes – yn cael ei ddangos mewn un gyfres o orielau integredig, gan roi llwyfan newydd i gelf Cymreig yng Nghymru.

Caiff ymwelwyr fwynhau hanes traddodiad gweledol unigryw Cymru, a’i le yng nghyd-destun ehangach Prydain a gweddill y byd. Gellir dilyn y trywydd drwy waith o’r cyfnod Tuduraidd hyd heddiw; paentiadau heb eu hail gan Hen Feistri Ewrop o’r unfed ganrif ar bymtheg a’r ail ganrif ar bymtheg; campweithiau Argraffiadaeth ac Ôl-argraffiadaeth o gymynrodd Gwendoline a Margaret Davies i’r genedl, sef eu casgliad celf Ffrengig o safon fyd-eang; a chasgliad cyfoes sy’n ysbrydoledig.

Yr Adain Orllewinol – chwech oriel gelf gyfoes arbennig newydd – fydd y gofod mwyaf o’i fath yng Nghymru. Cyn nawr, un oriel oedd gan yr Amgueddfa i arddangos ei hystod o gelf modern a chyfoes, sy’n un o gasgliadau pwysicaf y DU. Bydd y datblygiad hwn yn rhoi i’r Amgueddfa bron i 800 metr sgwâr o ofod i arddangos yr ystod aruthrol a chryf o gelf a gynhyrchwyd yng Nghymru ers cyn y 1950au, a pherthynas y gwaith yma i ddatblygiadau rhyngwladol.

Bydd yr arddangosiad agoriadol ym mis Gorffennaf 2011 – ‘Ni allaf ddianc rhag hon’ – yn cynnwys gwaith gan artistiaid a chanddynt gysylltiad â Chymru, fel Josef Herman a Shani Rhys James, ochr yn ochr ag artistiaid blaenllaw Prydeinig a rhyngwladol gan gynnwys Lucian Freud, David Hockney a Rachel Whiteread.

Mae Michael Tooby, Cyfarwyddwr Dysgu, Rhaglennu a Datblygu Amgueddfa Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn y broses o greu’r Amgueddfa Gelf Genedlaethol sydd wedi costio cyfanswm o £6.5m. Meddai ef:

“Bydd yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol yn apelio at bob carfan o ymwelwyr â’r Amgueddfa, ac mae’n gam enfawr ymlaen yn y ffordd rydym ni, Amgueddfa Cymru, yn arddangos ac yn dehongli’n casgliadau. Bydd y project hwn o ailadeiladu ac ailarddangos hefyd yn cael ei gyflwyno fel un arddangosiad integredig am y tro cyntaf, gan adlewyrchu’r ffordd y mae’n gweddnewid ymwybyddiaeth o’r celfyddydau gweledol yng Nghymru.”

Mae David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru yn ystyried yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol yn un o brojectau allweddol yr Amgueddfa:

“Mae casgliad y wlad o weithiau gan artistiaid Cymreig a rhyngwladol yn aruthrol. Am y tro cyntaf erioed, bydd gan y genedl orielau o safon ryngwladol sy’n adrodd hanes unigryw celf yng Nghymru a sut yr esblygodd y wlad.

“Ein nod yw ysbrydoli creadigrwydd cenedlaethau’r dyfodol, ac mae’r orielau hyn yn rhan hanfodol o’r strategaeth hon."

Mae Amgueddfa Cymru hefyd yn dal at ei huchelgais hirdymor o greu Oriel Gelf Genedlaethol. Mae’r strategaeth, sydd hefyd yn cynnwys datblygu Amgueddfa Genedlaethol Hanes Natur newydd, yn rhan o uwchgynllun hirdymor safle’r Amgueddfa Genedlaethol, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gwerthfawrogi cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru a chymorth noddwyr canlynol yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol: Ymddiriedolaeth Elusennol Tregolwyn, Ymddiriedolaeth Derek Williams, Sefydliad Garfield Weston, Sefydliad Henry Moore, Sefydliad Wolfson a llawer o roddion hael gan Ymddiriedolaethau llai ac unigolion.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn un o saith amgueddfa genedlaethol Amgueddfa Cymru. Y chwech arall yw Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.

Diwedd

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol ar 029 2057 3185 neu drwy ebostio catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk neu Lleucu Cooke, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar 029 2057 3175 neu drwy ebostio lleucu.cooke@amgueddfacymru.ac.uk.