Datganiadau i'r Wasg

Adeiladu Cartref i Hanes Cenedl yn Sain Ffagan

Mae Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru wedi cyhoeddi enwau aelodau’r tîm project, sy’n cynnwys contractwyr ac ymgynghorwyr, fydd yn eu cefnogi wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer dyfodol yr Amgueddfa.

Mae Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yng Nghaerdydd wedi penodi tîm o benseiri, peirianyddion a dylunwyr arddangosfeydd i weithio gyda’r Amgueddfa ar gynlluniau i ailddatblygu atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru.

Ym mis Mawrth 2010 dyfarnwyd grant o £450,000 i’r Amgueddfa gan Gronfa Treftadaeth y Loteri i weithio ar gynlluniau manwl i wneud newidiadau uchelgeisiol fydd yn trawsnewid profiad yr ymwelydd.

Mae’r cynllun a elwir yn ‘Creu Hanes’ yn cynnwys dyheadau i ailwampio’r oriel groeso bresennol ac adeiladu orielau newydd, gyda’r nod o adrodd hanes pobl Cymru o’r cyntaf i ymgartrefu yma hyd heddiw, gan ymestyn y llinell amser.

Dywedodd Pennaeth yr Amgueddfa Werin, Bethan Lewis:

“Mae penodi tîm o ymgynghorwyr o safon yn mynd i’n helpu ni i fwrw’r maen i’r wal gyda’r cynllun ‘Creu Hanes’.

“Bydd buddsoddi yn Sain Ffagan yn creu datblygiad cyffrous fydd yn ganolog i’r diwydiant ymwelwyr ac o fudd i Gymru gyfan.”

 

Mae’r tîm project yn cynnwys

 

- Pensaer (prif adeilad): Purcell Miller Tritton. www.pmt.co.uk

 

- Pensaer (adeiladau newydd): Feildon Clegg Bradley. www.fcbstudios.com

 

- Dylunwyr Arddangosfa: Haley Sharpe Design. www.haleysharpe.com

 

- Penseiri Tirlun: TEP. www.tep.uk.com

 

- Peirianwyr Adeileddol: Arup. www.arup.com

 

- Mechanical and Electrical Engineers: Arup www.arup.com

 

- Ymgynghorwyr Adeiladu, Dylunio a Rheolaeth: Davis Langdon. www.davislangdon.com

 

- Rheolwyr Project, Ymgynghorwyr Cynllun Busnes, Syrfewyr Meintiau: Focus Consultants. www.focus-consultants.co.uk <http://www.focus-consultants.co.uk>

 

- Ymgynghorwyr Hygyrchedd: Vision Sense Equality Solutions. www.visionsense.co.uk

Penodwyd yr ymgynghorwyr wedi cystadleuaeth agored yn unol â Deddfwriaeth Ewropeaidd. Gobeithir y bydd cais ail rownd i sicrhau arian pellach gan Gronfa Treftadaeth y Loteri yn cael ei gymeradwyo yn hydref 2012.

- DIWEDD -

Am fwy o wybodaeth a lluniau, cysylltwch a Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol (029) 2057 3185 / 07920 027067 catrin.mears@museumwales.ac.uk

 

neu

 

Iwan Llwyd, Swyddog Cyfathrebu (029) 2057 3486 / 07920 027054 iwan.llwyd@amgueddfacymru.ac.uk

 

- Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yw atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru gyda dros 600,000 o ymwelwyr pobl blwyddyn. Mae Sain Ffagan yn gartref i fwy na 40 o adeiladau sydd wedi eu symud o bob cwr o Gymru a’u hailgodi yn yr Amgueddfa. Mae’r adeiladau’n cynnwys swyddfa bost, ffermdai ac eglwys ganoloesol.

 

- Trwy ddefnyddio arian a godir drwy’r Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri yn buddsoddi mewn sawl agwedd o dreftadaeth er mwyn i genedlaethau presennol a’r dyfodol allu cymryd rhan, dysgu a mwynhau. Mae’r Gronfa wedi cefnogi 33,900 project gan ddosrannu £4.4biliwn i bob cwr o’r Deyrnas. Gwefan: <http://welsh.hlf.org.uk>

 

- Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa.

o Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd

o Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon

o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

o Amgueddfa Lleng Rufeinig, Caerllion

o Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

o Amgueddfa Wlân Cymru, Drefach Felindre

o Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe