Datganiadau i'r Wasg

Hwyl y gwanwyn ar y Glannau'r penwythnos hwn

Mae’r Pasg drosodd erbyn hyn, ond mae digon i’w wneud yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau o hyd.

Y penwythnos hwn (dydd Sadwrn 7 Mai am 2pm), bydd cyfle i ymwelwyr geisio ymchwilio i hanes y teulu gan ddefnyddio’r cyfrifiad i chwilio am gyndeidiau, teulu sydd wedi colli cysylltiad neu hen ffrindiau. Gyda chymorth Cymdeithas Hanes Teuluol Morgannwg, mae’r gweithdy hwn yn berffaith ar gyfer unrhyw un sydd eisiau gwybod mwy am eu gorffennol. Ffoniwch (01792) 638950 i gadw lle.

Drwy’r penwythnos, bydd yr Amgueddfa’n lle delfrydol ar gyfer y rheini sy’n mwynhau bod yn greadigol a defnyddio’u dychymyg.

Yng Ngweithdy Enamlo’r Gwanwyn, dan arweiniad yr artist lleol Maggie Jones, bydd cyfle i ymwelwyr ddarganfod y dechneg ddiddorol hon sy’n defnyddio gwydr a chopr powdwr a mynd â’r darn y byddan nhw’n ei ddylunio a’i greu adre gyda nhw. Cost y gweithdy fydd £6 y pen, a bydd ar gael ddydd Sadwrn a dydd Sul am 10.30am a 2.30pm. Addas i bobl 16 oed a h?n, rydym ni’n awgrymu cadw lle – ffoniwch (01792) 638950.

Bydd digwyddiad misol Gwneud a Thrwsio hefyd yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn am 1.30pm. Thema’r sesiwn fydd planhigion a blodau. Gan ddefnyddio hen ddeunyddiau neu ddeunyddiau wedi’u hailgylchu, bydd cyfle i greu ystod o ategolion prydferth ar siâp blodau – o dlysau i binnau gwallt a mwclis. Dim ond £3 y pen yw’r gost, ac mae’n addas i bobl 16 oed a h?n. Rhaid cadw lle, ffoniwch (01792) 638950.

Yna, ar ddydd Mawrth 10 Mai, gall rhieni a phlantos fwynhau Hwyl i’r Plantos ar y Glannau, bore o ganu, adrodd straeon a chrefftau yn Gymraeg dan arweiniad Menter Iaith a Twf. Sefydliad sy’n rhoi cyngor i rieni ar y manteision o ddefnyddio Cymraeg yn y cartref ac o fagu plant yn ddwyieithog yw Twf. Does dim rhaid cadw lle, galwch i mewn rhwng 10.30am a 12pm.

Am ragor o wybodaeth am unrhyw un o’r digwyddiadau, ewch i http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/digwyddiadau/?site=swansea neu ffoniwch 01792 638950.