Datganiadau i'r Wasg

Big Pit yn ennill marciau uchel am Ymweliadau Addysgiadol

Mae’r ddarpariaeth addysg ardderchog yn Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru wedi derbyn cydnabyddiaeth ar ffurf dwy wobr fawr.

Mae’r Amgueddfa, sy’n croesawu tua 60,000 o ymwelwyr o ysgolion bob blwyddyn, wedi ennill bathodyn safon Learning Outside the Classroom (LOtC) ac mae’r Wobr Sandford, a enillwyd am y tro cyntaf yn 2005, wedi cael ei hadnewyddu. Mae’r wobr, sy’n cael ei chyflwyno gan yr Ymddiriedolaeth Addysg Treftadaeth, yn cydnabod safon a rhagoriaeth y gwasanaeth addysgol mewn safle hanesyddol. Mae Big Pit yn un o ddwy amgueddfa yn unig yng Nghymru sydd wedi ennill Gwobr Sandford eleni.

Cyflwynwyd Gwobr Sandford i Big Pit gan Lloyd Grossman mewn seremoni fawreddog yn San Steffan yng ng?ydd llefarydd T?’r Cyffredin, John Bercow, ac AS Torfaen, Paul Murphy.

Mae Big Pit wedi ennill y gwobrau yma am ei rhaglen addysg ardderchog wedi’i seilio ar brofiad, sy’n cynnwys arwain ymwelwyr 300 troedfedd i grombil y ddaear i archwilio pwll glo go iawn, gan gael eu tywys gan gyn lowyr go iawn sy’n adrodd hanesion am eu profiadau nhw o weithio o dan y ddaear.

Ategir y profiad tanddaearol gan arddangosfeydd a phrofiadau rhyngweithiol yng ngweddill yr Amgueddfa, yn cynnwys efelychiad tanddaearol aml-gyfrwng modern lle gall ymwelwyr ddysgu am ddulliau modern o gloddio am lo. Gall ymwelwyr addysgol hefyd gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar agweddau penodol o fywyd gwaith a chartref y diwydiant glo yng Nghymru.

Dywedodd Sharon Ford, Swyddog Addysg, Big Pit: “Mae adnewyddu ein Gwobr Sandford ac ennill Bathodyn Safon LOtC yn gamp wych i holl staff Big Pit, gan ei fod yn dangos ein bod ni’n cynnig profiadau dysgu unigryw o safon uchel. Rydyn ni wrth ein bodd i dderbyn cydnabyddiaeth swyddogol am ein hymdrechion ac yn edrych ymlaen i groesawu mwy fyth o blant a phobl ifanc i’r Amgueddfa.”

Ychwanegodd Ceri Black, Pennaeth Addysg, Amgueddfa Cymru: “Llongyfarchiadau mawr i dîm Big Pit! Mae’r wobr hon yn cadarnhau bod rhaglenni Addysg Treftadaeth yr Amgueddfa wedi mynd o nerth i nerth dros y 5 mlynedd diwethaf. Mae ysgolion yn mwynhau gwefr y daith danddaearol, yn ogystal â’r gweithgareddau ger y llyn, hela bwystfilod bach a dysgu mwy am blant yn gweithio yn Oes Fictoria.

“Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, rydyn ni’n torri cwys newydd gan groesawu tipyn o ddysgwyr Cymraeg, sy’n dysgu am ein treftadaeth ddiwydiannol tra’n gwella eu sgiliau Cymraeg ar yr un pryd.”

Dywedodd Beth Gardner, Prif Weithredwr Cyngor LOtC:  “Mae ymweliadau addysgol yn rhai o’r profiadau mwyaf cofiadwy yng ngyrfa ysgol plentyn. Mae Bathodynnau Safon yn rhoi gwarant i athrawon bod y safle yn darparu gwerth addysgol y gellir adeiladu arno yn y dosbarth ymhell wedi’r ymweliad ond bod strwythurau rheoli risg priodol ar waith hefyd.

“Mae nifer o fuddiannau profedig i ddysgu y tu allan i’r dosbarth. Bydd Bathodyn Safon LOtC yn lleihau biwrocratiaeth ac yn rhoi sicrwydd i ysgolion, gan sicrhau y bydd mwy o bobl ifanc yn profi cyfleoedd dysgu cofiadwy, cyffrous a gwerthfawr y tu allan i’r dosbarth. Rwy’n llongyfarch Big Pit ar ennill y bathodyn.”