Datganiadau i'r Wasg

Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae Ffotograffydd Bywyd Gwyllt Y Flwyddyn yn dychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 18 Mehefin tan 11 Medi 2011 yn yr orielau Hanes Natur sydd ar agor eto.

 

Mae’r arddangosfa yn cynnwys canlyniadau Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn Veolia Environment, cystadleuaeth fawreddog mwyaf o’i bath Yr Amgueddfa Hanes Natur a BBC Wildlife Magazine.

Bydd cyfle hefyd i ymwelwyr fwynhau dros gant o ddelweddau, gan gynnwys canlyniadau gwobr newydd – Newyddiadurwr Ffotograffaeth Bywyd Gwyllt Y Flwyddyn – sy’n dathlu chwe llun sy’n adrodd stori gofiadwy. Fe fydd delweddau trawiadol sy’n aml yn procio’r meddwl yn rhoi cipolwg ar brydferthwch, drama ac amrywiaeth natur.

Dyfarnwyd teitl Ffotograffydd Bywyd Gwyllt Y Flwyddyn Veolia Environnement i Bence Máté, ffotograffydd o Pusztaszer, Hwngari, am ei ddelwedd Rhyfeddod o forgrug, llun syml sy’n cyfleu cymhlethdod ymddygiad morgrug deildorrol yn fforestydd glaw Costa Rica.

Dyfarnwyd gwobr Ffotograffydd Ifanc Bywyd Gwyllt y Flwyddyn Veolia Environment i’r Albanwr Fergus Gill am yr ail flwyddyn yn olynol. Dyfarnwyd taw ei ddelwedd o sogiar, Y foment stond, oedd y ddelwedd fwyaf cofiadwy o blith holl ddelweddau’r ffotograffwyr dan 17 oed.

Dewisodd panel beirniaid oedd yn cynnwys rhai o’r ffotograffwyr natur ac arbenigwyr bywyd gwyllt uchaf eu parch yn y maes y delweddau gorau a anfonwyd i’r gystadleuaeth yn 2010, o gyfanswm o ddegau o filoedd o bedwar ban byd.

Dywedodd Cadeirydd Panel y Beirniaid, Mark Carwardine, “Er nad oes fformiwla hud i ennill, na rheolau pendant i esbonio pam fod un ffotograff yn ennill ar draul un arall, mae gan bob llun buddugol un peth yn gyffredin - gwreiddioldeb.

“Mae’r beirniaid yn chwilio am rywbeth sy’n eu syfrdanu. Mae’r gystadleuaeth yn chwarae rôl gynyddol bwysig wrth godi proffil ffotograffiaeth bywyd gwyllt a chodi ymwybyddiaeth am gadwraeth.

Nid oes unrhyw beth yn fwy grymus na ffotograff sy’n tanio’r dychymyg, sy’n cyffwrdd a’n hemosiynau neu sy’n gwneud i ni feddwl.’

Dywedodd Dr Deborah Spillards o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, “Rydyn ni’n bles iawn bod Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn yn dychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Mae’r orielau Hanes Naturiol wedi cael eu hadfywio ac ar agor eto i ymwelwyr. Un o’r uchafbwyntiau yw ardal newydd sbon o’r enw ‘Bywyd yn y Môr’ sy’n arddangos dros 80 o samplau newydd, felly dyma reswm arall i ymweld â ni.

 

“Mae dau o anifeiliad preswyl mwyaf poblogaidd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ôl wedi cyfnod o lanhau sef y morfil cefngrwm a’r crwban môr lledrgefn mwyaf a gofnodwyd erioed."