Datganiadau i'r Wasg

Big Bang yn y Glannau!

Digwyddiad hwyliog, addysgiadol rhad ac am ddim â’r nod o ddefnyddio gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) bob dydd i ysbrydoli pobl ifanc.

Bydd Big Bang Cymru yn tanio dychymyg pobl ifanc yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yfory, dydd Mawrth 12 Gorffennaf o 9am i 3 pm.

Mae’n un o ffeiriau rhad ac am ddim mwyaf Cymru ac yn datgelu ochr gyffrous pynciau STEM gan cynnwys toreth o weithdai a gweithgareddau rhyngweithiol i bobl ifanc o 7-19 mlwydd oed.

Bydd yno amrywiaeth o arddangosiadau rhyngweithiol, arbrofion, ffrwydradau, efelychiadau a sioeau gan nifer o arddangoswyr yn cynnwys Science Junkies, tîm Bloodhound, Space Connections, Classroom Medics a llawer mwy. Y nod yw dangos sut y gall astudio pynciau STEM wneud gwir wahaniaeth i fywydau a chyfleon gyrfa pobl ifanc heddiw.

Mae Big Bang Cymru yn un o ddeuddeg ffair ranbarthol ar draws y DU, ac mae’n cael ei chynnal gan Gyrfa Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol. Bydd y digwyddiad yn denu cannoedd o ddisgyblion o bob cwr o Gymru fydd yn cystadlu i ennill eu lle yn rownd derfynol y gystadleuaeth Gwyddoniaeth a Peirianneg Genedlaethol, yn ogystal â rowndiau terfynol rhanbarthol Peiriannydd Ifanc Prydain a CREST.

Wrth siarad am y digwyddiad yfory dywedodd Mandy Wescott, Swyddog Addysg Ffurfiol yr Amgueddfa: “Mae’n bleser gennym gynnal Big Bang Cymru yn yr Amgueddfa. Mae’n gyfle gwych i ddenu pobl ifanc yn ddyfnach i fyd anhygoel peirianneg a phwysleisio ei rôl bwysig yng ngorffennol, presennol a dyfodol diwydiannol Cymru.“

Dywedodd Ray Collier, Prif Weithredwr y Gorllewin Gyrfa Cymru: “Mae Big Bang Cymru yn ffordd wych o ymgysylltu â disgyblion ysgol, athrawon, rhieni, cyflogwyr lleol a’r cyhoedd a phwysleisio budd pynciau STEM. Gobeithio bydd y digwyddiad yn dal dychymyg ymwelwyr ac arddangoswyr fel eu gilydd ac yn dod â chynrychiolwyr diwydiannau gweithgynhyrchu lleol (y sector y disgwyliwn i ddangos y cynydd mwyaf dros y blynyddoedd diwethaf) wyneb yn wyneb â phobl ifanc sydd heb benderfynu eto ar eu gyrfaoedd.

“Does dim digwyddiad tebyg i Big Bang Cymru a bydd yn ddiwrnod gwych a fydd, gobeithio, yn ysbrydoli ieuenctid Cymru i ddilyn gyrfa yn y sector hon, sy’n esblygu yn gyson ac yn allweddol i ddyfodol diwydiant yng Nghymru.”

Dywedodd Paul Jackson, Prif Weithredwr Big Bang: “Mae Ffeiriau Rhanbarthol Big Bang ar draws y wlad yn dangos i bobl ifanc pa mor gyffrous y gall astudio a gweithio ym maes STEM fod. Mae’r ffeiriau yn rhan allweddol o’n ‘sgwrs drwy’r flwyddyn’ â phobol ifanc, ac yn eu galluogi i brofi’r cyffro a’r cyfleon sydd o’u blaenau ar eu stepen drws.

“Ein nod yw i 100,000 o blant a phobl ifanc brofi’r Big Bang eu hunain bob blwyddyn ymhen 5 mlynedd, mewn digwyddiad cenedlaethol neu ranbarthol.”

DIWEDD

Am ragor o wybodaeth am Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ffoniwch Marie Szymonski ar 01792 638970.