Datganiadau i'r Wasg

Yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol – torri tir newydd yng Nghymru

Mae gan Gymru hanesion lu i’w hadrodd trwy waith artistiaid a chasglwyr o’r tu fewn i’w ffiniau a thu hwnt. Bydd nifer o’r straeon hyn i’w clywed a’u gweld yn yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol £6.5m newydd, oedd wedi agor i’r cyhoedd ddydd Sadwrn 9 Gorffennaf 2011.

Wyddoch chi fod gwaith hanesyddol pwysig y peintiwr tirwedd Cymreig, Thomas Jones, Y Bardd yn seiliedig ar chwedl Thomas Gray o laddfa’r beirdd Cymreig gan Edward I? Neu beth am hanes Gwendoline a Margaret Davies? Diolch i’r ddwy chwaer mae wyth o gampweithiau Monet yn y casgliad cenedlaethol. Ar gyfer ei osodiad newydd sbon, Cylch Blaenau Ffestiniog (2011), treuliodd Richard Long, un o artistiaid mwyaf adnabyddus Prydain, ddeuddydd yn casglu llechi o Chwarel y Llechwedd.

 

Am y tro cyntaf, bydd ystod llawn casgliad cenedlaethol safon fyd-eang y wlad – o gelf gain a chymwysedig; o’r hanesyddol i’r cyfoes – yn cael ei ddangos o dan un to yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gan roi llwyfan newydd i gelf Gymreig yng Nghymru.

Mae’r Amgueddfa Gelf Genedlaethol yn cynnwys chwe oriel gelf gyfoes arbennig newydd, sy’n cynnig 40% yn fwy o le i arddangos celf o 1950 ymlaen. Cyn nawr, dim ond un oriel oedd gan yr Amgueddfa i arddangos ei hystod o gelf fodern a chyfoes, sy’n un o gasgliadau pwysicaf y DU.

 

Bydd yr arddangosiad agoriadol yn yr orielau newydd – ‘Ni allaf ddianc rhag hon’ – yn cynnwys gwaith gan artistiaid a chanddynt gysylltiad â Chymru, fel Josef Herman, Shani Rhys James a Tim Davies ochr yn ochr ag artistiaid blaenllaw Prydeinig a rhyngwladol gan gynnwys Lucian Freud, David Hockney a Rachel Whiteread. Mae’n dangos cryfder ac ystod y gwaith celf a gynhyrchwyd yng Nghymru ers y 1950au, a’i berthynas â’r cyd-destun rhyngwladol.

 

Mae gwaith gan artistiaid iau sydd yn datblygu hefyd yn cael eu harddangos. Ymhlith yr rhain mae’r gwaith Di-deitl (Cynnig ar gyfer Canolfan Gymdeithasol) 2009, sef golau neon yn hongian uwchben piben goncrit sy’n llawn gelatin lliwgar gan yr artistiaid Manon Awst a Benjamin Walther. Mae’r cwpl, sy’n rhannu eu hamser rhwng Caernarfon aBerlin, yn cael eu hysbrydoli gan yr hyn sydd o’u hamgylch.

 

Mae Defnyddiau Llythrennedd (1997) gan enillydd Gwobr Turner, Jeremy Deller, yn waith ar y cyd rhwng yr artist a ffans y gr?p roc o Gymru,y Manic Street Preachers.

 

Ar gyfer Cyfres o Gardiau Post 2, mae Tim Davies, sy’n cynrychioli Cymru yng Ng?yl Gelf Fenis ar hyn o bryd, wedi torri’r ffigurau o fenywod mewn gwisg ‘draddodiadol’ Gymreig allan o gardiau - mae’n bosibl mai sylw yw hyn ar y ffordd y mae delweddau byd twristiaeth yn cadw syniadau cul a diangen o hunaniaeth genedlaethol yn fyw.

 

Mewn oriel ar wahân bydd cyfle i ymwelwyr weld Unlliw (2002) gan Carwyn Evans, gosodiad o 6,500 o focsys adar cardfwrdd sy’n cyfeirio at y ddadl gyfoes am effaith polisïau cynllunio ar gydbwysedd diwylliannol ardaloedd gwledig Cymru.

 

Hefyd yn rhan o’r arddangosiadau agoriadol mae gwaith John Cale sydd wedi ennill bri rhyngwladol, Dyddiau Du – Dark Days, fydd yn cael ei ddangos yn yr Amgueddfa yng Nghaerdydd tan yr hydref diolch i’r artist, Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru. Yna bydd yn parhau’n rhan o’r casgliad cenedlaethol.

 

“Mae casgliad Cymru o waith gan artistiaid Cymreig a rhyngwladol yn aruthrol, a nawr mae ganddo gartref teilwng. Yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol yw un o’r canolfannau celf mwyaf y tu allan i Lundain, ac mae’n sefydliad cenedlaethol newydd o’r radd flaenaf i Gymru gyfan,” meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru.

“Fodd bynnag, nid cyfres o orielau trawiadol yn unig yw’r Amgueddfa Gelf Genedlaethol. Drwy ddefnyddio gweithiau’r gorffennol hyd heddiw sydd o bwysigrwydd mawr, gallwn ni ysbrydoli egin-artistiaid i edrych tua’r dyfodol a chreu gwaith all, ryw ddydd, gael ei arddangos yma. Rydyn ni’n edrych ymlaen at agoriad y gofod addysg celf newydd, a noddwyd yn gyfangwbl gan Sefydliad Foyle, yn nes ymlaen eleni.”

 

Ni fyddai’r project £6.5 miliwn wedi bod yn bosibl heb gymorth Ymddiriedolaeth Derek Williams, Ymddiriedolaeth Elusennol Tregolwyn, Sefydliad Garfield Weston, Sefydliad Henry Moore, Sefydliad Wolfson a Sefydliad Foyle – noddwr y gofod addysg celf, y gronfa Gelf sydd wedi cefnogi nifer o weithiau newydd a rhoddion hael gan ymddiriedolaethau llai, llawer o unigolion a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Huw Lewis AC, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth:

 

“Rwy’n falch iawn bod cartref addas gennym nawr ar gyfer ein casgliadau celf genedlaethol, un sydd mor wych â’r gweithiau sydd y tu fewn iddi. Mae Llywodraeth Cymru’n falch iawn ei bod wedi buddsoddi mwy na £3 miliwn tuag at yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol dros y pum mlynedd diwethaf fel bod ein bod ni’n medru arddangos mwy o’n casgliadau celf. Bydd pawb yn gallu mwynhau’r cartref newydd yma a fydd yn codi proffil Cymru fel lleoliad celf ryngwladol.”

Mae Amgueddfa Cymru hefyd yn dathlu lansio’r Amgueddfa Gelf Genedlaethol drwy gyhoeddi llawlyfr newydd gyda rhagair gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas. Mae Llawlyfr yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol yn cynnwys 150 o weithiau allweddol mewn lliw llawn sy’n adlewyrchu ystod a dyfnder casgliad celf Cymru. Mae’r llyfr hefyd yn olrhain hanes hynod ddiddorol y casgliad, gan ddisgrifio sut mae casgliad cenedlaethol yn dod i fod a rhai o’r unigolion arbennig a chwaraeodd ran yn hanes 100 mlynedd y casgliad. Mae argraffiad Cymraeg a Saesneg o’r llyfr 176-tudalen, am bris o £16.99 yn unig.

Llawlyfr yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol, ISBN 978 0 7200 0612 4

A Companion Guide to the Welsh National Museum of Art, ISBN 978 0 7200 0613 1