Datganiadau i'r Wasg

Delweddau Naturiol

Ffotograffau hanesyddol Amgueddfa Cymru yn cael eu digideiddio diolch i rodd o £600,000 gan Sefydliad Esmée Fairbairn

 

Ffotograffau hanesyddol Amgueddfa Cymru yn cael eu digideiddio diolch i rodd o £600,000 gan Sefydliad Esmée Fairbairn

 

Mae project newydd i guradu a digido ffotograffau hanesyddol o gasgliadau cenedlaethol Cymru bellach yn bosibl diolch i gefnogaeth Sefydliad Esmée Fairbairn, sy’n dathlu ei 50fed Penblwydd eleni.

 

Bydd menter newydd Amgueddfa Cymru – Delweddau Naturiol – yn dechrau yn Hydref 2011 ac yn trosglwyddo esiamplau gorau casgliad anhygoel yr Amgueddfa o tua 500,000 o ffotograffau ac eitemau hanesyddol, i fformat digidol hygyrch.

 

Mae eitemau o gasgliadau ffotograffiaeth yr Amgueddfa wedi’u gwasgaru dros sawl maes ar hyn o bryd, o ddaeareg a botaneg i hanes cymdeithasol a diwydiannol, a chelf erbyn hyn. Gall Cymru ymfalchïo yn ei chyfraniad i hanes ffotograffiaeth a thrwy Delweddau Naturiol, bydd yr Amgueddfa yn ailystyried safle ffotograffiaeth yn y casgliad cenedlaethol, ac yn casglu delweddau amrywiol ac anhygoel ynghyd i arddangos cwmpawd y casgliad cyfoethog hwn.

 

Mae’r Amgueddfa’n gartref i waith ffotograffwyr amrywiol, rhai’n ddienw a rhai’n enwog, fel arloeswr ffotograffiaeth yng Nghymru John Dillwyn Llewelyn. Un o gryfderau mawr casgliad ffotograffau hanesyddol Cymru yw’r 1,500 o ddelweddau a gwrthrychau a gysylltir â Dillwyn Llewelyn. Mae’n cynnwys printiau gwreiddiol o’r 1850au ac esiamplau o’i waith arloesol a’i arbrofi technegol gyda’r ‘broses ddisymwth’, gan ddal eiliadau unigryw fel ton yn torri yn Caswell ac un o’r ffotograffau hynaf mewn bod o goelcerth noson Guto Ffowc (tua 1853).

 

Elfen bwysig arall o’r casgliad yw’r albymau ffotograffau a’r llyfrau am ffotograffiaeth. Mae gan yr Amgueddfa gopi argraffiad cyntaf o The Pencil of Nature gan William Henry Fox Talbot – un o’r llyfrau cyntaf i ddisgrifio ffotograffiaeth, yn ogystal â delweddau gan Calvert Richard Jones, a ddatblygodd ei dechneg ei hun o dynnu ffotograffau panoramig, ac a deithiodd gyda Fox Talbot o amgylch Prydain tra fo hwnnw’n gweithio ar ei lyfr.  

“How charming it would be if it were possible to cause these natural images to imprint themselves durable and remain fixed upon the paper! And why should it not be possible? I ask myself.” The Pencil of Nature gan William Henry Fox Talbot

 

[O mor swynol y byddai medru achosi i’r delweddau naturiol yma wasgnodi’u hunain yn barhaol ac aros ynghlwm ar y papur! A pam na all hyn fod yn bosibl? Gofynnaf i fy hun.]

 

Bydd Delweddau Naturiol yn mynd â gweledigaeth Fox Talbot gam ymhellach wrth drosglwyddo ffotograffau’r casgliad o wydr a seliwloid i ffeiliau digidol, ac o negatif i ffacsimili papur a’r sgrin. 

 

Dywedodd Michael Tooby, Cyfarwyddwr Addysg, Rhaglennu a Datblygu, Amgueddfa Cymru:

“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Sefydliad Esmée Fairbairn am eu rhodd hael, fydd yn sbardun i’r rhaglen hon sy’n bwysig i Amgueddfa Cymru, ac i bobl Cymru a thu hwnt.

 

“Bydd Delweddau Naturiol yn rhoi’r llwyfan haeddiannol i’n casgliadau ffotograffig ac yn sicrhau eu bod yn derbyn yr un cydnabyddiaeth ryngwladol â’r daliadau gwych eraill yn ein casgliadau hanes cymdeithasol a diwydiannol, celf, archaeoleg a hanes natur.

 

“Gobeithiwn y bydd ail-ddehongli’r casgliad yn ysbrydoli ffotograffwyr hen a newydd!”

 

Dywedodd Dawn Austwick, Prif Weithredwr Sefydliad Esmée Fairbairn:

 

“Mae gan Sefydliad Esmée Fairbairn hanes y mae’n falch ohoni, o weithio gyda phrosiectau sydd yn galluogi pobl i fwynhau a chymryd rhan cyflawn yn y celfyddydau. Bydd Delweddau Naturiol yn agor casgliad unigryw Amgueddfa Cymru o ffotograffiaeth hanesyddol i gynulleidfa newydd sbon yng Nghymru a thu hwnt, ac rydym yn falch iawn i gefnogi’r fenter ffres yma fel rhan o’n dathliadau penblwydd yn 50 oed.”