Datganiadau i'r Wasg

Arbenigwr pryfed Amgueddfa Cymru yn hedfan i Chile

Allwn ni ddim deall bioamrywiaeth yng Nghymru yn llawn heb ddeall bioamrywiaeth yn y byd. Bydd Amgueddfa Cymru yn gwneud gwaith ymchwil pellach i fioamrywiaeth ar ddiwedd mis Tachwedd pan fydd entomolegydd ac arbenigwr pryfed adran hanes natur Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Dr Adrian Plant, yn mynd ar alldaith wyddonol dair wythnos i ardal Patagonia yn Chile.

Bydd Dr Plant yn ymuno â thîm o gyfoedion o’r Muséum national d’Histoire naturelle yn Ffrainc sy’n rhan o Raglen CAFOTROP (CAnopée des FOrêts TROPicales). Eu gwaith yw archwilio fforestydd trofannol anferth Hemisffer y De gan chwilio’n arbennig am bryfed sydd wedi goroesi ers cyfnod pan oedd De America, Affrica, Awstralia ac Antartica yn un cyfandir deheuol anferth o’r enw Gondwana, tua 100 miliwn o flynyddoedd yn ôl. 
Bydd gosod y pryfed hynafol yma mewn trefn esblygiad a’u cymharu ag ymraniad Gondwana a symudiad y cyfandiroedd i’w lleoliadau presennol yn gymorth i’r gwyddonwyr ddeall patrymau bioamrywiaeth heddiw yn well.
Bydd y tîm yn teithio ar longau a thros y tir mewn cerbydau 4X4, gan archwilio nifer o fforestydd anghysbell ar gyrion deheuol y Carretera Austral rhwng Puerto Montt a Coihaique yn Ardal y Llynnoedd Chile. Bydd arbenigwyr eraill ar bryfed, chwilod planhigion a phryfed mân yn rhan o’r criw yn ogystal â dringwr coed proffesiynol fydd yn galluogi’r ymchwilwyr i weithio’n ddiogel yn uchelfannau claear a chyfoethog canopïau coedwigoedd trofannol y rhanbarth.
Dywedodd Dr Adrian Plant o Amgueddfa Cymru, “Bydd yr alldaith yn sialens ond mae’n fy nghyffroi yn fawr. Yn ogystal a medru rhoi o’m profiad fy hun yn Chile, bydd y profiad o fudd i’r Amgueddfa. Bydd yr hyn a ddysgwn yn Chile yn gwella’n dealltwriaeth o gyflwr bioamrywiaeth yng Nghymru.
“Gellir defnyddio’r pryfed yma i fodelu cyfres o ddigwyddiadau esblygol a bio-ddaearyddol fydd yn galluogi ymchwilwyr i ateb rhai cwestiynau; pam fod anifeiliaid i’w gweld mewn rhai llefydd ac nid mewn llefydd eraill; pam fod bioamrywiaeth yn ffynnu mewn rhai mannau; sut effeithiodd newid hinsawdd yn y gorffennol ar yr amrywiaeth bywyd ar y ddaear heddiw?”