Datganiadau i'r Wasg

Ffair Gaeaf Amgueddfa Lechi Cymru

Dewch i fwynhau hwyl yr wyl a sbri y nadolig yn yr amgueddfa!

Os ydych yn chwilio am ddipyn o hwyl i ddechrau tymor y nadolig yna dewch draw i Amguedda Lechi Cymru Llanberis ar 27 Tachwedd rhwng 11am a 4pm ar gyfer y FFAIR ‘AEAF flynyddol.

Bydd diwrnod llawn hwyl i’w gael gyda cyfuniad arbennig o weithgareddau i’r teulu oll. Bydd Sion Corn yn cyrraedd ar dren am 11am ac yna yn gweld plantos yn ei ‘groto’ arbennig. Yn ogystal bydd llu o weithgareddau eraill gan gynnwys sioe bypedau, dweud stori gyda Mair Tomos Ifans, cerddoriaeth gan Seindorf arian Deiniolen, a cyfle i wneud crefft i fynd adref. Eleni hefyd bydd cyfle i gael pas ar y tren naoldig bach yng nghanol iard yr amgueddfa fel esbonioddJulie Williams, swyddog Marchnata’r safle:

“Mae’r Ffair Gaeaf yn gyfle gwych i groesawu tymor gaeaf a chfnod y Nadolig’, Bydd Sion Corn yn cyrraedd ar dren am 11am ond hefyd bydd cyfle i blant a theuluoedd gael pas ar y tren nadolig bach fydd yn ganol yr iard. Mae gyno ni hefyd flwch post arbennig i blant bostio eu llythyrau at Sion Corn – a bydd Sion Corn yn brysur wedi’r Ffair yn ymateb iddyn nhw i gyd!”

“Mae’n gyfle i ni ddiolch i bobl lleol am eu cefnogaeth drwy’r tymor, ac i atgoffa pobol ein bod ar agor drwy’r gaeaf iddyn nhw gael dod am dro. Bydd holl atyniadau’r Amgueddfa ar agor fel arfer gan gynnwys ein Tai Chwarelwyr fydd i gyd wedi’u haddurno am y tymor.”

Cynhelir y FFAIR AEAF ar 27 Tachwedd rhwng 11am a 4pm. Mae mynediad am ddim i’r amgueddfa ac i’r gweithgareddau oll ond mae taliad bychain i weld Sion Corn ac i wneud y crefftau. Am fwy o wybodaeth cysylltwch a’r amgueddfa ar 01286 870630 neu ebost ar llechi@amgueddfacymru.ac.uk

--- diwedd---

Am wybodaeth y wasg cysylltwch a Julie Williams on 01286 873707 julie.williams@amgueddfacymru.ac.uk

Mae Amgueddfa Cymru ar agor trwy’r gaeaf Dydd Sul – Dydd Gwener 10am – 4pm

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.