Datganiadau i'r Wasg
CRWBAN MÔR MWYA'R BYD NÔL YN EI LE YN YR AMGUEDDFA AC ORIEL GENEDLAETHOL, CAERDYDD
Dyddiad:
2004-07-26Cafodd y crwban môr lledraidd ei olchi i'r lan ar draeth Harlech ym mis Medi 1988 gan ddenu sylw'r byd i gyd. Yn 100 oed, hwn yw'r crwban mwyaf a thrymaf i gael ei fesur erioed. Roedd y creadur bron 3m (9tr) o hyd ac yn pwyso 914 kilo (2016 pwys). Boddodd y crwban ar ôl cael ei ddal mewn llinynnau pysgota yn anffodus.
Mae nifer fawr o bobl wedi nodi iddyn nhw weld crwbanod môr lledraidd oddi ar arfordir Prydain ac Iwerddon ers 1980. Mae o leiaf 306 cofnod o bobl yn eu gweld yn y môr ac mae 121 wedi cael eu ffeindio'n farw. Mae hyn yn awgrymu bod y crwbanod yn dod i'n moroedd bob haf i chwilio am eu hoff fwyd - slefrod môr.
Mae'r arddangosfa barhaol wych Hanes Natur: Dyn a'r Amgylchedd yn cynnwys anifeiliaid o bedwar ban y byd.
Mae mynediad i'r Amgueddfa yn rhad ac am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.