Datganiadau i'r Wasg

Arddangosfa Cardiau Nadolig boblogaidd yn Amgueddfa'r ddinas

Mae cardiau Nadolig wedi bywiogi Amgueddfa Genedlaethol y Glannau drwy gyfrwng cyfres o gynlluniau arbennig gan dalentau creadigol Ysgol Pen-y-Bryn yn Abertawe.

Fel rhan o broject Ysgol, penderfynodd disgyblion y chweched dosbarth roi eu dychymyg ar waith a chreu detholiad o gardiau â thema Gymreig gref, gyda dreigiau rygbi doniol a defaid gwlanog yn sglefrio.

Gyda phob cerdyn, mae model 3D o’r clawr wedi’i wneud o ddetholiad o ddeunyddiau gan gynnwys plastisin, paent a choed. Yn ystod y broses fodelu, roedd cyfle i’r disgyblion ddysgu sgiliau newydd sbon gan gynnwys gwnio, goleuo a ffotograffiaeth.

Noddir y project gan Burfa Clydach (Vale Refinery Clydach), ac mae’n gyfle i’r disgyblion feddwl yn greadigol a chymryd rhan mewn menter fasnachol go iawn – mae hefyd yn cyfrannu at eu hastudiaethau ffurfiol.

Tra’n siarad am y fenter, dywedodd Cydlynydd Cymunedol yr ysgol, James Williams: “Y syniad gwreiddiol oedd gwneud cerdyn Nadolig i’r ysgol, rhywbeth fyddai’n hollol wahanol i unrhywbeth a wnaed yn y gorffennol, a rhywbeth fyddai’r disgyblion ym medru gweithio arno fel gr?p.

"Mae wedi bod yn brofiad gwych ac rydyn ni i gyd wedi cydweithio’n dda. Rydyn ni’n falch o gael cyfle i arddangos ein gwaith yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac rydyn ni’n gobeithio’n fawr y bydd yr ymwelwyr yn mwynhau’r arddangosfa.”

Gan siarad am waith yr ysgol gyda’r Amgueddfa, Dywedodd yr Awdur Oriel Andrew Deathe: “Dyma’r ail flwyddyn i ddisgyblion Ysgol Pen-y-Bryn weithio gyda ni ar arddangosfa ac rydyn ni’n falch o gael eu croesawu nhw yn ôl unwaith eto. Cyrhaeddodd y gwaith dros y penwythnos, ac mae wedi ennyn diddordeb ymwelwyr yn barod, ac mae’r cardiau eu hunain ar werth yn y siop.”

DIWEDD

Am gyfweliadau, cyfle i dynnu lluniau neu ragor o wybodaeth i aelodau’r wasg, cysylltwch â Marie Szymonski ar 01792 638970.

Mae’r cardiau Nadolig ar werth yn y siop ar hyn o bryd am £2 am becyn o bedwar (dyluniad gwahanol ar bob un).

Bydd y cardiau yn cael eu harddangos tan ddydd Mercher 4 Ionawr 2012

Diolch i Lywodraeth Cymru, mae mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon

Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe